Helpwch i gadw Cerddorfa WNO ar y Ffordd
NEWYDDYDION GAN WNO:
Y mis Rhagfyr hwn, gall eich rhodd fynd ddwywaith mor bell – a helpu i warchod y gerddoriaeth sy’n ein hysbrydoli ni i gyd.
O2-9 Rhagfyr, mae Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn cymryd rhan ynBig Give Christmas Challenge– ymgyrch arian cyfatebol cenedlaethol lle maepob rhodd a wneir ar-lein yn cael ei ddyblu.
Mae ein trelar teithiol wedi teithio dros 160,000 o filltiroedd dros y ddau ddegawd diwethaf ac mae nawr ar ddiwedd ei oes. Bydd eich cefnogaeth yn helpu i ni ei gyfnewid am drelar newydd sbec uchel sy’n fwy effeithlon yn amgylcheddol, gan sicrhau y gall Cerddorfa WNO barhau i ddod â cherddoriaeth i gynulleidfaoedd am flynyddoedd i ddod.
Y tu ôl i bob perfformiad mae taith pobl, offerynnau, gofal a chydlyniant. Mae mynd ar daith yn ein galluogi i ddod â cherddoriaeth o’r radd flaenaf i gymunedau ar hyd a lled Cymru a thu hwnt, ond mae’n broses gymhleth a chostus: mae offerynnau’n fregus, mae teithio’n flinedig, ac mae trafnidiaeth ddiogel yn hanfodol.