Cerddor Ifanc 2026

Mae Cerddor Ifanc y BBC, sef cystadleuaeth boblogaidd a gynhelir bob yn ail flwyddyn gan y BBC i ddathlu cerddorion clasurol ifanc mwyaf addawol y Deyrnas Unedig, yn dychwelyd ar gyfer 2026, ac mae’r ceisiadau ar agor nawr.

Mae cyn enillwyr a chystadleuwyr y gystadleuaeth yn cynnwys Sheku Kanneh-Mason (2016), y sacsoffonydd Jess Gillam (2016), y feiolinydd Nicola Benedetti (2004), y pianydd Benjamin Grosvenor (2004), y pianydd Martin James Bartlett (2014), a’r chwaraewr soddgrwth Laura van der Heijden (2012). Y pianydd Ryan Wang ddaeth i’r brig yn 2024.

I gystadlu, rhaid i’r cerddorion, sy’n 18 oed ac iau (rhaid i’r ymgeiswyr gael eu geni ar 1 Medi 2007 neu ar ôl hynny), gyflwyno fideo 10 munud o hyd a fydd yn cael ei sgorio gan feirniaid arbenigol. Bydd hyd at 40 o ymgeiswyr o’r ceisiadau cychwynnol yn cael clyweliad byw.

Bydd wyth cerddor yn cymryd rhan yn y rownd gogynderfynol, bydd pump yn mynd ymlaen i’r rownd gynderfynol, a bydd tri o’r rheiny yn cyrraedd y rownd derfynol. Am y tro cyntaf yn hanes y gystadleuaeth, bydd yr enillydd yn cael cyfleoedd i recordio a darlledu ar BBC Radio 3.

Y dyddiad cau i ymgeiswyr gyflwyno cais fideo yw 1 Rhagfyr 2025, a bydd y clyweliadau digidol yn cael eu beirniadu ym mis Rhagfyr 2025 a mis Ionawr 2026. Bydd clyweliadau byw yn cael eu cynnal ddiwedd mis Chwefror a dechrau mis Mawrth 2026. Bydd y rownd gogynderfynol a’r rownd gynderfynol yn cael eu cynnal ym mis Gorffennaf 2026. Bydd y rownd derfynol yn cael ei chynnal ym mis Hydref 2026 yn theatr Bristol Beacon, a bydd hi’n cael ei darlledu ar BBC Two a BBC iPlayer yn hydref 2026.

 

Manylion YMA
(Cyngor Celfyddydau Cymru)