Metro De Cymru i roi gwasanaethau rheilffyrdd yn hwyr y nos newydd ar waith

O fis Rhagfyr (14 Rhagfyr), bydd gwasanaethau Metro De Cymru yn rhedeg yn hwyrach gyda’r hwyr gan gefnogi economi yn ystod y nos a chynnig mwy o opsiynau i’r cwsmeriaid hynny sy’n dymuno teithio.

Bydd yr amserlen newydd yn cryfhau cysylltiadau yn y Cymoedd trwy gryfhau cysylltiadau cymunedol a darparu mwy o gyfleoedd i deithio yn y rhanbarth.

Mae’r gwasanaethau hwyr y nos hyn, yn enwedig y cysylltiad hwyr o Fae Caerdydd, yn gyfle gwych i aros allan yn hwyrach a gwylio perfformiadau yng Nghanolfan Mileniwm Caerdydd, gan wneud teithiau adref wedi hynny yn syml ac yn ddi-drafferth.

Mae’r rhain yn newidiadau pellach fel rhan o ddatblygu Metro De Cymru.

  • Gwasanaeth dydd Sul newydd sbon bob awr rhwng Coryton a Phenarth (estyniad i’r gwasanaeth presennol rhwng Caerdydd a Phenarth) sy’n annog teithio ar y Sul.
  • Ar ddydd Gwener, bydd tri thren hwyrach o Gaerdydd yn gadael ar ôl hanner nos i Dreherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful, gan gynnwys cysylltiad o Fae Caerdydd.
  • O ddydd Llun i ddydd Sadwrn bydd trên newydd am 05:37 o Ben-y-bont ar Ogwr i Gaerdydd yn galw ym mhob gorsaf ac yn ymestyn i Lynebwy, gan gefnogi’r rheini sy’n teithio i’r gwaith yn gynnar.
  • Bydd gorsaf Ynyswen, ar linell Treherbert, yn ailagor yn swyddogol ar ôl cwblhau uwchraddiadau sylweddol.

Gyda chyflwyno gwasanaeth dydd Sul ar linell Coryton, mae TrC yn atgoffa holl ddefnyddwyr croesfannau, yn benodol yn Nhŷ Glas a Pharc Caedelyn/Yr Eglwys Newydd, i Stopio, Edrych a Gwrando bob amser cyn croesi’r rheilffordd.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth: “Mae cysylltiadau rheilfforddyn hanfodol i sbarduno ffyniant.

“Bydd y newidiadau hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gwsmeriaid, a fydd yn elwa ar fwy o wasanaethau ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau.

“Mae hyn wedi bod yn bosibl gan ein buddsoddiad o £800m mewn trenau newydd sbon ar gyfer rhwydwaith Cymru a’r Gororau.”

Bydd yr amserlen rheilffyrdd yn newid ar 14 Rhagfyr 2025 gan gyflwyno gwelliannau a newidiadau ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau.

Cliciwch yma i gael gwybodaeth fanylach – https://trc.cymru/statws-gwasanaeth/amserlenni

Nodiadau i olygyddion


  • Pan fyddwch chi’n defnyddio croesfan reilffordd, cofiwch wneud y canlynol:
    • Darllenwch yr arwyddion rhybudd a dilynwch y cyfarwyddiadau’n ofalus.
    • Os ydych chi ar feic, dewch oddi arno a cherddwch.
    • Goruchwyliwch blant ac anifeiliaid.
    • Stopiwch, edrychwch bob ffordd a gwrandewch.
    • Pan fydd y lein yn glir, croeswch yn gyflym heb redeg (gan edrych a gwrando o hyd).
    • Os oes giât, dylech bob amser ei chau ar eich ôl.
  • Bydd gorsaf Ynyswen yn ailagor ddydd Sul 14 Rhagfyr, ar ôl i ni gwblhau ail blatfform newydd a phont droed Mynediad i Bawb. Dylai teithwyr sy’n teithio tuag at Gaerdydd ddefnyddio platfform 1 (platfform gwreiddiol yr orsaf), tra dylai’r rhai sy’n teithio tuag at Dreherbert ddefnyddio platfform 2 (y platfform newydd).
  • Ar draws diwydiant rheilffyrdd y DU mae newidiadua mawr yn cael eu gwneud i amserlenni bob blwyddyn ym mis Mai ac ym mis Rhagfyr fel rhan o’r newid amserlen rheilffyrdd bob dwy flynedd cenedlaethol a gydlynir ledled Prydain Fawr.
  • Mae’r amserlenni newydd bellach wedi’i hymgorffori yn y systemau cynllunio teithiau cyn y newid ar 14 Rhagfyr, felly gall cwsmeriaid chwilio am amseroedd trenau ar ôl y dyddiad hwn.
  • Mae manylion gwasanaethau TrC bellach ar gael ar ein gwefan yn www.trc.cymru, a elwid gynt yn ‘Gwiriwr Taith’.