Cerddorfa a chôr ieuenctid yn perfformio yn Neuadd Frenhinol Albert eiconig Llundain
Mae 220 o berfformwyr ifanc o bob rhan o dde Cymru, sy’n cynrychioli Cerddorfa a Chôr Ieuenctid de-ddwyrain Cymru, wedi serennu ar lwyfan Neuadd Frenhinol Albert.
Roedd yr ensemble rhyfeddol, a oedd wedi’i ddwyn ynghyd gan Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro, yn cynnwys 92 o ddisgyblion o bob rhan o’r ddau awdurdod lleol.
Yn cynrychioli Cerddorfa a Chôr Ieuenctid de-ddwyrain Cymru, roedd ysgolion Cyngor Caerdydd a gymerodd ran yn y digwyddiad yn cynnwys Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf, Ysgol Uwchradd Caerdydd, Ysgol Uwchradd Fitzalan, Ysgol Uwchradd Llanisien, Ysgol Gyfun Radur, Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern, ac Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf.