Y lluniau gorau wrth i Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd 2025 ddod i ben
Y lluniau gorau wrth i Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd 2025 ddod i ben
Mae Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd – dathliad pythefnos o gerddoriaeth a ddaeth â sêr byd-eang, arwyr lleol, talent newydd ffres a miloedd o gefnogwyr cerddoriaeth i leoliadau ledled y ddinas – wedi dod i ben ar ôl ail flwyddyn lwyddiannus.
Bydd yr ŵyl yn dychwelyd am ei thrydedd flwyddyn yn Hydref 2026.
Yn rhychwantu 20 lleoliad, 60 o ddigwyddiadau ac yn cynnwys perfformiadau gan dros 200 o artistiaid, agorodd rhaglen gŵyl 2025 o gigs, gosodiadau, sgyrsiau a digwyddiadau untro gyda pherfformiad gan y band Cymreig clodwiw CVC yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Dywedodd Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Jennifer Burke:
“Cerddoriaeth yw curiad calon Caerdydd ac nid yw hynny erioed wedi bod yn fwy gwir nag yn ystod yr ŵyl eleni.
“Mae ein dinas yn prysur ddod yn un o gyrchfannau cerddoriaeth mwyaf cyffrous y DU ac yn sicr mae cerddoriaeth anhygoel wedi bod i gynulleidfaoedd ei mwynhau, ond mae effaith yr ŵyl yn mynd yn ddyfnach na hynny – mae’n helpu i gefnogi ein lleoliadau annibynnol, yn darparu llwyfan gwerthfawr i artistiaid lleol ac yn dathlu ein sîn.”
Roedd Sŵn, Llais a’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig unwaith eto yn falch o fod yn rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd ochr yn ochr â rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau wedi’u curadu’n arbennig mewn lleoliadau ar draws canol dinas Caerdydd a thu hwnt.
Roedd yr adegau bythgofiadwy yn cynnwys:
• rhoi gwobr Ysbrydoli Cerddoriaeth Gymreig 2025 i’r chwaraewr bas chwedlonol Pino Palladino yn seremoni flynyddol Gwobr Cerddoriaeth Gymreig;
• Llais yn cyflwyno sioeau buddugoliaethus gan Rufus Wainwright a Cate Le Bon;
• setiau grymus gan Getdown Services, Moonchild Sanelly, Georgia Ruth, Gruff Rhys a mwy, yng ngŵyl gerddoriaeth flynyddol newydd Sŵn;
• DJ Mixmag y Flwyddyn Max Dean yn rhwygo llawr dawns Depot;
• Ishamel Ensemble yn cyfuno jazz ac electronica gyda delweddau 360° yn CULTVR;
• canu disgo torfol yn Eglwys Sant Ioan;
• a thrawsnewid Marchnad Caerdydd am dair noson yn ganolfan fwyd llawn cerddoriaeth, celf a golau gyda Radio Sudd yn cynnwys set DJ gan enillydd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2025, Don Leisure.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd, mae’r ŵyl yn adeiladu ar lwyddiant ‘haf o gerddoriaeth’ Caerdydd a welodd gannoedd ar filoedd o gefnogwyr cerddoriaeth yn mynychu cyngherddau awyr agored yn y ddinas, gan ddod â miliynau o bunnoedd mewn buddion economaidd gyda nhw.
Mae’r ŵyl yn rhan allweddol o strategaeth gerddoriaeth hirdymor Cyngor Caerdydd sydd â’r nod o wneud y mwyaf o fanteision diwylliannol, economaidd, cymdeithasol a lles cerddoriaeth a gwneud Caerdydd yn ‘ddinas gerdd.’
Mae cyflawniadau allweddol y strategaeth hyd yma yn cynnwys:
• helpu i sicrhau dyfodol Clwb Ifor Bach.
• sefydlu Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd.
• sicrhau yr ymgynghorir â’r bwrdd cerddoriaeth ar bob cais cynllunio a allai effeithio ar leoliadau cerddoriaeth.
• cefnogi lleoliadau llawr gwlad y ddinas drwy’r pandemig.
• helpu lleoliad annibynnol Porters i ddod o hyd i gartref newydd.
• cefnogi agor lleoliad llawr gwlad The Canopi.
• Cyflwyno cynllun datblygu talent newydd mewn ysgolion.
• penodi swyddog cerddoriaeth ymroddedig cyntaf y ddinas.
• gweithio gyda phartneriaid i ddod â sêr cerddoriaeth byd-eang gan gynnwys Taylor Swift, Beyonce, Foo Fighters, Stevie Wonder, The Cure ac Oasis i Gaerdydd.
• buddsoddi £200,000 yn lleoliadau’r ddinas drwy rownd gyntaf Cronfa Lleoliadau Llawr Gwlad newydd.
• Agor ceisiadau ar gyfer rownd dau o’r Gronfa Lleoliadau Llawr Gwlad, diolch yn rhannol i’r incwm a gynhyrchwyd i’r Cyngor gan gyngherddau Caeau’r Gored Ddu yr haf diwethaf.
• gweithio gydag AMG i sicrhau dyfodol Neuadd Dewi Sant a dod â lleoliad newydd yr Academi i Gymru.
• cefnogi’r gwaith o ddatblygu arena newydd â chapasiti o 16,500 ym Mae Caerdydd.
Ffotograffau:
- Ishmael Ensemble yn perfformio o dan y gromen ymdrochol 360° yn CULTVR. Llun gan: 4Pi Productions
- Rufus Wainwright yn perfformio yng Ngŵyl Lais. Llun gan: Llais
- Ibibio Sound Machine yn perfformio yng Ngŵyl Lais. Llun gan: Llais
- Enillydd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2025 Don Leisure. Llun gan: Gwobr Gerddoriaeth Gymreig
- Enwebeion Gwobr Gerddoriaeth Gymreig Melin Melyn ar y llwyfan yn y seremoni wobrwyo. Llun gan: Gwobr Gerddoriaeth Gymreig
- Pino Palladino yn perfformio yn The Gate y diwrnod ar ôl derbyn Gwobr Ysbrydoli Cerddoriaeth Gymreig, Llun gan: Jamie Chapman
- MPH yn District. Llun gan: Jamie Chapman
- Organ yr eglwys yn galw cynulleidfaoedd i Discomass yn Eglwys Sant Ioan. Llun gan: Jamie Chapman
- Los Campesinos. Llun gan: Jamie Chapman
- Agorodd Marchnad Caerdydd yn hwyr ar gyfer penwythnos olaf Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd. Llun gan: Coal Poet Media
- Daeth alawon y farchnad nos trwy garedigrwydd Radio Sudd. Llun gan: Coal Poet Media
- Rhaglennodd Radio Sudd dair noson o DJs ym Marchnad Caerdydd. Llun gan: Coal Poet Media
- Cynhaliodd y gromen ymdrochol 360° yn CULTVR ystod o ddigwyddiadau gwthio ffiniau. Llun gan: 4Pi Productions
- Beverly Glenn-Copeland ar lwyfan yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn ystod Llais. Llun gan: Jamie Chapman
- Cefnogwyr yn mwynhau Los Campesinos yng Ngŵyl Dinas Gerdd Caerdydd. Llun gan: Jamie Champan