Noson arbennig gyda CVC i lansio Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd

Bydd y band lleol mawr ei fri, CVC, yn agor Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd 2025 gyda pherfformiad arbennig yn y Neuadd Dora Stoutzker eiconig yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar ddydd Gwener 3 Hydref.

‘Noson gyda CVC’ fydd cyngerdd cyntaf y band fel y brif act ers eu perfformiad Nadolig yn Neuadd Fawr Prifysgol Caerdydd yn 2024. Gan gychwyn yr ŵyl bythefnos o hyd, mae’n addo bod yn noson glos, gyda’r band yn perfformio darnau newydd ochr yn ochr â thraciau poblogaidd a fersiynau annisgwyl o ganeuon gan artistiaid eraill.

“CVC yw e, ond gyda phiano cyngerdd!” meddai’r gitarydd Dave Bassey. “Miwsig newydd sbon mewn lleoliad newydd sbon a seddi cyfforddus!”

Bydd tocynnau ar gyfer ‘Noson gyda CVC’ ar werth ddydd Gwener 19 Medi am 10am, a byddant ar gael yma: https://www.rwcmd.ac.uk/cy/events/an-evening-with-cvc

Gan fynd i’r llwyfan am 8pm, bydd CVC yn rhoi cyfle prin i gynulleidfaoedd brofi eu cerddoriaeth mewn lleoliad clos. Mae eu sioeau byw wedi cael eu canmol fel “rhywbeth rhyfeddol” gan gylchgrawn Clash, a chyda’u hail albwm hirddisgwyliedig yn dod yn 2026, byddant yn gosod y naws ar gyfer rhaglen uchelgeisiol yr ŵyl.

Gyda chefnogaeth Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, bydd Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn cael ei chynnal rhwng 3 a 18 Hydref 2025. Gan ymgorffori Sŵn, Llais a’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig, bydd yr ŵyl yn cynnwys perfformiadau gan eiconau sefydledig gan gynnwys Rufus Wainwright, Gruff Rhys, Cate Le Bon, Pino Palladino, Meredith Monk a Moonchild Sanelly. Bydd arloeswyr llai enwog fel Squid, Getdown Services, Adult DVD, Gans a Deadletter hefyd yn ymddangos, yn ogystal â sêr esgynnol o Gymru fel Adwaith, Sage Todz, Ynys a Nancy Williams. Bydd rhaglen o ddigwyddiadau annisgwyl, sgyrsiau, gosodiadau a gigs bach yn coroni rhaglen yr ŵyl.