Neidio i'r prif gynnwys

Datgelu rhestr fer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2025

Mae rhestr fer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2025 – sydd yn ei 15fed blwyddyn eleni – wedi cael ei chyhoeddi, gyda 15 artist ar draws genres – o hip hop, rap a cherddoriaeth electronig i werin, roc a phync-pop – yn y ras am y wobr glodwiw a rhodd ariannol o £10,000.

Mae clwstwr o albymau cyntaf wedi cyrraedd y rhestr – ochr yn ochr ag albwm gyntaf Panic Shack sy’n rhannu’r un enw â’r band, a gyrhaeddodd rif 1 yn y Siart Albymau Roc a Metel Swyddogol; mae Tai Haf Heb Drigolyn gydag Ein Albwm Cyntaf Ni, y gantores-gyfansoddwraig solo Buddug gyda Rhwng Gwyll a Gwawr, yr artistiaid electro-pop o Gaerdydd Siula gyda’u halbwm gyntaf sinematig, Night Falls on the World a’r band roc seicadelig Melin Melyn gyda Mill on The Hill.

Ymhlith yr artistiaid eraill sydd ar y rhestr fer mae’r enillwyr dwbl blaenorol Adwaith gyda’u halbwm diweddaraf, Solas, yn ogystal ag enillydd blaenorol arall, Gwenno, gyda’i halbwm diweddaraf, Utopia. Mae enillydd 2017, The Gentle Good, ar y rhestr fer eleni gydag Elan, yn ogystal ag enillydd 2021 Kelly Lee Owens gyda’i halbwm newydd, Dreamstate.

Mae’r albymau Cymraeg, neu albymau sy’n cynnwys traciau Cymraeg, sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn cynnwys ymchwiliad manwl y cynhyrchydd o Gaerdydd Don Leisure i archifau labeli gwerin indi, Tyrchu Sain; yr artist rap Sage Todz gyda Stopia Cwyno a’r rocwyr amgen Breichiau Hir a enwebwyd am eu halbwm roc nodedig, Y Dwylo Uwchben.

Mae Cotton Crown, sef ail albwm The Tubs – band o Gymru sydd bellach wedi’i leoli yn Llundain – wedi’i henwebu, yn ogystal ag Acid Communism, wythfed albwm y band hirsefydlog KEYS o Gastell-nedd, sydd wedi cyrraedd y rhestr fer unwaith o’r blaen yn 2020, a hefyd albwm offerynnol y delynores a’r gyfansoddwraig Cerys Hafana, Difrisg.

Bydd enw enillydd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2025 yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, nos Lun 6 Hydref, o dan arweiniad Sian Eleri o Radio 1. Bydd y digwyddiad yn cael ei ddarlledu’n fyw ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales, ochr yn ochr â rhaglen deledu newydd o uchafbwyntiau ar BBC One Wales, fydd yn arddangos darnau o’r seremoni.

Mae’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig, a sefydlwyd yn 2011, yn dathlu ei phen-blwydd yn 15 oed eleni, ac i nodi’r garreg filltir mae BBC Cymru Wales wedi comisiynu rhaglen uchafbwyntiau arbennig o’r digwyddiad eleni a fydd hefyd yn edrych ar effaith y wobr ar sîn gerddoriaeth Cymru dros y pymtheg mlynedd diwethaf. Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu ar ôl y seremoni eleni ar BBC One Wales a BBC iPlayer.

Caiff y wobr ei rhoi am albwm gan artist o Gymru sydd wedi’i rhyddhau yn ystod y flwyddyn flaenorol, ac aeth y Wobr Gerddoriaeth Gymreig gyntaf i Gruff Rhys am ei drydydd albwm unigol, Hotel Shampoo.

Enillydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig y llynedd oedd L E M F R E C K gyda’i albwm tair rhan uchelgeisiol llawn awyrgylch a ryddhawyd yn 2023, Blood, Sweat & Fears. Yn ystod ei araith wrth dderbyn y wobr, siaradodd yr artist R&B a rap amgen, a gafodd ei fagu yng Nghasnewydd, am y gydnabyddiaeth gan y Wobr Gerddoriaeth Gymreig gan ddweud: “Hoffwn sôn am ba mor bwysig yw cynrychiolaeth. Nid ticio bocs yw e pan fydd artistiaid fel fi yn ennill gwobrau fel hyn – mae’n gadarnhad o gelf.”

Meddai cyd-sylfaenydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Huw Stephens: “Am y pymthegfed tro, bydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn dathlu’r albymau grêt yma mewn noson arbennig. Rydyn ni’n falch iawn y bydd pawb yn cael gweld y noson ar BBC One Wales ac iPlayer eleni hefyd. Mae’r rhestr hir a’r rhestr fer ddilynol o albymau yn ein hatgoffa’n flynyddol am y gerddoriaeth a’r albymau gwych sy’n dod o Gymru.”

Dywedodd Jack Sargeant, y Gweinidog Diwylliant: “Mae rhestr fer eleni yn adlewyrchiad gywir o’r amrywiaeth mewn genre a’r talent cerddorol anferthol sy’n dod allan o Gymru. Mae’n wych i weld popeth o pedairawd pync oll-fenywaidd, i electronica, pop seicydelig, a rap Cymraeg yn cael ei fyr-rhestru gan y rheithgor, a nid wyd yn eiddigeddus o dasg y beirniaid I ddewis enillydd. Mae am fod yn noson ffantastig lle mae’r diwydiant a’r cefnogwyr yn medru ymuno i ddathlu cerddoriaeth Cymreig. Llongyfarchiadau mawr!”

Meddai’r Cynghorydd Jennifer Burke, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Pharciau: “Mae’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn ddigwyddiad mor bwysig i’r sîn gerddoriaeth yng Nghymru – mae’n ffordd wych i ffans ddod o hyd i’r gerddoriaeth newydd orau sy’n dod o Gymru, ac i artistiaid a cherddorion talentog Cymru ehangu eu cynulleidfa – ac mae wedi bod yn gwneud hynny ers 15 mlynedd. Dyna pam rydyn ni’n parhau i’w chefnogi, a dyna pam rydyn ni mor falch y bydd yn rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd unwaith eto yn yr hydref.”

Y beirniaid eleni yw:

  • Sofia Ilyas, Prif Swyddog Cymunedol yn Oriel Beatport.
  • Roisin O’Connor, golygydd cerddoriaeth yr Independent a chyflwynydd y podlediad Good Vibrations.
  • DJ a chyflwynydd ar BBC Radio Wales, Molly Palmer.
  • DJ, awdur a chyflwynydd ar BBC 6 Music, Zakia Sewell.
  • Natalia Quiros Edmunds, newyddiadurwraig gerddoriaeth a rheolwr artistiaid i Wildlife Entertainment, cwmni rheoli’r Arctic Monkeys a Fontaines DC.
  • Awdur a beirniad cerdd y Guardian, Jude Rogers.
  • Davie Morgan, awdur a rheolwr marchnata’r cylchgrawn diwylliant a cherddoriaeth Gymreig, Radar.
  • Tim Jonze, golygydd cysylltiol ar gyfer diwylliant yn y Guardian.
  • Caroline Cullen, Cynhyrchydd Cyfres – Later…with Jools Holland / BBC Studios

 

Rhestr fer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2025:

  1. Adwaith – Solas
  2. Buddug – Rhwng Gwyll a Gwawr
  3. Breichiau Hir – Y Dwylo Uwchben
  4. Cerys Hafana – Difrisg
  5. Don Leisure – Tyrchu Sain
  6. Gwenno – Utopia
  7. Kelly Lee Owens – Dreamstate
  8. KEYS – Acid Communism
  9. Melin Melyn – Mill on the Hill
  10. Panic Shack – Panic Shack
  11. Sage Todz – Stopia Cwyno
  12. Siula – Night Falls on the World
  13. Tai Haf Heb Drigolyn – Ein Albwm Cyntaf Ni
  14. The Gentle Good – Elan
  15. The Tubs – Cotton Crown