Neidio i'r prif gynnwys

SŴN CYSYLLTU: Rhaglen Mentora

Fel rhan o’n cynhadledd, rydyn ni’n gwahodd artistiaid a’r diwydiant ifanc yng Nghymru i wneud cais i gymryd rhan yn ein Rhaglen Mentora sy’n cysylltu artistiaid a diwydiant Cymru ag arbenigwyr diwydiant cerddoriaeth ledled gwledydd Prydain fel asiantau, rheolwyr, cyhoeddwyr, hyrwyddwyr, gwyliau, cyfreithwyr a chynhyrchwyr.

Cynhelir y Rhaglen Mentora mewn amrywiol leoliadau yng nghanol Dinas Caerdydd o 16 – 18 Hydref gyda’r prif weithgaredd wyneb yn wyneb yn digwydd ddydd Iau 16 a dydd Gwener 17 Hydref.

Rydyn ni’n sicrhau mynediad i’r ymgeiswyr llwyddiannus at:

  • Raglen lawn cynhadledd Sŵn Cysylltu
  • Cyfarfod wyneb yn wyneb gyda mentoriaid o’r diwydiant
  • Cymysgwyr Sŵn Cysylltu (gan gynnwys Perfformiadau Sŵn Spotlight)
  • Darperir lluniaeth a byrbrydau ysgafn ym mhob gweithgaredd cynhadledd

Mae hwn yn gyfle unigryw i ymgysylltu â’r diwydiant cerddoriaeth ehangach a hynny wyneb yn wyneb dros 3 diwrnod.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 15 Medi 2025 a chewch wybod os ydych chi wedi bod yn llwyddiannus erbyn 1 Hydref 2025.

 

MANYLION YMA