LLAIS 2025: ARTISTIAID NEWYDD WEDI'U CYHOEDDI

Mae Llais yn dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru yr hydref hwn, fel rhan flaenllaw o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd
Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cyhoeddi dychweliad Llais, ei gŵyl gerddoriaeth enwog sy’n dod â rhai o leisiau gorau’r byd ynghyd i Fae Caerdydd.
Mae Llais yn rhan flaenllaw o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd: dathliad dros gyfnod o bythefnos gyda gigs, digwyddiadau, sgyrsiau, gosodiadau a pop-yps, sy’n harneisio pŵer cerddoriaeth, perfformiadau a thechnoleg i uno ac i ysbrydoli.
Ond yn wahanol i ŵyl arferol yng ngwledydd Prydain (sydd yn aml yn cynnwys glaw trwm, dillad mwdlyd a chiwiau hir), mae Llais yn hollol wahanol. Dan do yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, canolfan sy’n enwog am ei phensaernïaeth a’i dyluniad acwstig syfrdanol, gall gwesteion fwynhau cerddoriaeth o’r radd flaenaf gan artistiaid byd-eang. Ac yn well byth, does dim angen côt law, mae digonedd o ddewis yn y bar ac mae’r tai bach ychydig yn fwy moethus!
Mae Llais yn archwiliad o gerddoriaeth a pherfformiadau i’ch trawsnewid – gan ddod â’r doniau cerddorol mwyaf trydanol ynghyd o dan un to. Wedi’i leoli yng Nghanolfan Mileniwm Cymru am flwyddyn arall, mae’r digwyddiad yn manteisio ar y nifer o leoliadau amrywiol sydd gan y ganolfan ar gyfer perfformiadau, gan greu’r awyrgylch perffaith i feithrin gŵyl ymdrochol, ysbrydoledig a hygyrch i bawb.
O ran y perfformwyr, mae enwau byd-eang yn camu i’r llwyfan. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae sioe unigol, unigryw gan Rufus Wainwright, a dychweliad yr eicon indie o Gymru Cate Le Bon. Mae ymddangosiad prin yn y DU gan y gantores-gyfansoddwraig a’r ymgyrchydd Beverly Glenn-Copeland hefyd yn rhan o arlwy Llais. Yng nghwmni’r gwestai arbennig Elizabeth Copeland, bydd y sioe yn dathlu dros 50 mlynedd o gelfyddyd sy’n herio genres.
Ond mae llawer mwy na hynny, wrth i restr perfformwyr Llais barhau i dyfu gydag enwau newydd wedi eu cyhoeddi:
Meredith Monk, gyda Katie Geissinger ac Allison Sniffin
Wedi’i disgrifio fel “Un o arloeswyr mawr cerddoriaeth gyfoes”, mae Meredith Monk yn ymddangos am y tro cyntaf yng Nghymru. Ar ôl gadael ei stamp ar y sîn gelfyddydol ers degawdau, mae ei gwaith yn cwmpasu cerddoriaeth, theatr a dawns. Yng nghwmni dwy o’i hensemble lleisiol, Katie Geissinger ac Allison Sniffin, sydd wedi perfformio gyda Meredith ers y 90au, bydd gwledd go iawn i’r gwesteion wrth i harmonïau angylaidd ddod ynghyd yn Neuadd Hoddinott am brofiad unwaith mewn oes.
Mared a’i Ffrindiau
Gan gyfuno cerddoriaeth werin, indie a phop, mae Mared a’i band 7 aelod yn ymuno â’r arlwy, gan ychwanegu Llais at eu taith fer ledled Cymru a Lloegr. Fel enillydd Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn 2021, mae Mared yn addo lleisiau a melodïau hyfryd i’ch swyno.
Khamira
Gan gyfuno cerddoriaeth werin o Gymru, cerddoriaeth glasurol Hindustanaidd a jazz, mae Khamira yn dod â ‘Cherddoriaeth y Byd yn fyrfyfyr’ i Ganolfan Mileniwm Cymru am un noson yn unig. Wedi’i ffurfio yn 2015, mae gan Khamira ddau albwm, sy’n dod â diwylliant Cymru ac India ynghyd drwy gerddoriaeth sy’n llawn llawenydd. Wedi’i ddisgrifio fel ‘profiad cyfareddol’ gan Nation Cymru, ni ddylid ei golli.
Poesis
Gan ddod â phob cwr o’r DU ynghyd, mae Poesis yn gydweithrediad rhwng pedwar talent eithriadol sy’n dod ag arddull unigryw i gerddoriaeth werin draddodiadol. Mae Claire Victoria Roberts, cantores a feiolinydd o Gymru, yn creu Poesis gyda Lulu Manning o’r Alban, Conor McAuley o Ogledd Iwerddon a Xhosa Cole o Loegr.
Mae’r perfformwyr hyn yn ymuno â sêr Soul yr Unol Daleithiau Annie and the Caldwells, y canwr soddgrwth arbrofol o Guatemala Mabe Fratti, y seren jazz o Mongolia Enji, yn ogystal â’r artistiaid o Orllewin Affrica sy’n plethu genres Vieux Farka Touré a Trio Da Kali, ac egni ffrwydrol Ibibio Sound Machine. Cynrychiolir adfywiad cerddoriaeth werin Iwerddon gan harmonïau a cappella Landless a cherddoriaeth electronig arloesol RÓIS.
Hefyd, mae’r wythnos yn cychwyn gyda’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig ar ei diwrnod agoriadol (dydd Llun 6 Hydref), ac yna BBC Canwr y Byd Caerdydd: Dathliad ddydd Mercher 8 Hydref.
Fel pe na bai hynny’n ddigon – bydd gŵyl eleni hefyd yn cynnwys Ceci est mon cœur (Dyma fy Nghalon) – profiad ymdrochol newydd sy’n archwilio stori garu ryfeddol: cymod plentyn â’i gorff. Profiad barddonol, aml-synhwyraidd clywedol, yn adrodd stori fel na theimlwyd erioed o’r blaen.
Felly pan fydd tymor gwyliau haf gwledydd Prydain yn dod i ben yn fuan, peidiwch ag anghofio am y tymor gwyliau amgen, drwy gydol y flwyddyn. Mae Llais yn ôl.
LLAIS 2025.
6–12 Hydref 2025
Tocynnau ar werth nawr: Llais | Canolfan Mileniwm Cymru