Neidio i'r prif gynnwys

Gwobrau LIVE 2025 | Mae enwebiadau bellach ar agor!

NEWYDDION GAN LIVE (Live music Industry Venues & Entertainment):

Mae enwebiadau bellach ar agor ar gyfer Gwobrau LIVE eleni, sy’n cael eu cynnal yn Troxy yn Llundain, 10 Rhagfyr.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau eleni yw 10 Hydref.

Gwobrau LIVE yw hoff noson y flwyddyn yn y diwydiant cerddoriaeth fyw a’r unig amser y mae hyrwyddwyr, lleoliadau, gwyliau, asiantiaid, rheolwyr, criwiau cynhyrchu, timau tocynnau, a mwy o bob rhan o’r sector yn dod at ei gilydd o dan yr un to. Mae’r Gwobrau’n cydnabod ac yn dathlu’r unigolion a’r cwmnïau sy’n gyrru cerddoriaeth fyw ymlaen, gydag enillwyr yn cael eu dewis gan banel amrywiol o weithwyr proffesiynol wedi eu dewis yn ofalus o bob rhan o’r diwydiant.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am bob categori a sut i gyflwyno eich enwebiadau.

 

Mae’r rhestr lawn o wobrau LIVE 2025 fel a ganlyn:
Gwobr Werdd LIVE
Gwobr y Gweithlu LIVE
Lleoliad y Flwyddyn
Hyrwyddwr Llawr Gwlad
Asiantaeth Archebu’r Flwyddyn (x2 gategori)
Y Gwasanaeth Tocynnau Gorau
Hyrwyddwr Cenedlaethol y Flwyddyn
Hyrwyddwr Rhanbarthol y Flwyddyn
Gŵyl Fawr y Flwyddyn
Gŵyl y Flwyddyn‏
Teithiwr y Flwyddyn
Cyflenwr Cynhyrchu
*Gwobr Rhagoriaeth Cefn Llwyfan*
Gwobr Cyflawniad LIVEtime

Mae byrddau o ddeg a seddi unigol ar gael nawr o ddim ond £205 +TAW a bydd pob tocyn yn cynnwys diodydd croeso; cinio gyda gwin, dwy awr o gwrw, gwin a diodydd meddal am ddim; y gwobrau, a pharti wedi hynny gyda DJs tan yr oriau mân.

Am fwy o wybodaeth am docynnau / digwyddiadau, neu i gyflwyno enwebiad, cliciwch yma.

…ac i’ch atgoffa o enillwyr y llynedd, cliciwch yma.