Neidio i'r prif gynnwys

Cymru Greadigol | Ymunwch â'n bwrdd

NEWYDDION GAN Cymru Greadigol:

Mae pobl o bob math ac o bob cefndir yn gweithio i’n diwydiannau creadigol, ac rydym am i’n bwrdd anweithredol adlewyrchu’r amrywiaeth a’r creadigedd sy’n gwneud Cymru yn lle mor gyffrous a gwych i greu ynddo.

Rydym yn chwilio am Gadeirydd newydd a mwy o aelodau i ymuno â’r bwrdd a helpu Cymru Greadigol i ddeall yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu ein diwydiant.

Bydd angen i chi fod yn ddeinamig ac angerddol a meddu ar y profiad a’r persbectif a all ein helpu i lywio dyfodol y sectorau creadigol yng Nghymru.

Mae’r diwydiant yn dal i esblygu, ac mae’n bwysig ein bod yn deall yr holl ffactorau sy’n effeithio ar y sector – o arferion cynaliadwy a thechnolegau newydd, i ddelio â’r bwlch sgiliau a’r rhwystrau sy’n wynebu pobl.

Bydd ehangu’r gynrychiolaeth ar y bwrdd yn ein helpu i osod amcanion ystyrlon a nodau hirdymor a ddaw â budd go iawn i Gymru.

Felly, os ydych chi’n barod am her, cliciwch YMA