Cronfa Her Arloesedd | Media Cymru x Outernet

NEWYDDION GAN MEDIA CYMRU:
Cwmni adloniant cyfryngol byd-eang yw Outernet. Mae’n dod â cherddoriaeth, ffilm, celf a gemau ynghyd mewn ffyrdd sy’n eich helpu i ymgolli yn y profiad. Mae man adloniant y cwmni ar Tottenham Court Road, Llundain yn cynnwys sgriniau amlapio eglur iawn, a’r rhain yw’r mwyaf yn y byd.
Mae ein cydweithrediad diweddaraf gydag Outernet yn canolbwyntio ar gynnwys trochi sy’n manylu ar hunaniaeth a dyfodol arloesedd yng Nghymru. Dyma gyfle i greu profiadau beiddgar sy’n canolbwyntio ar y gynulleidfa ar un o lwyfannau cyfryngau amser real mwyaf datblygedig y byd.
Rydyn ni’n chwilio am gwmnïau creadigol neu ymarferwyr llawrydd profiadol sydd â’r weledigaeth a’r gallu technegol i ddatblygu hyd at saith munud o gynnwys trochi wedi’i baratoi’n benodol ar gyfer amgylchedd digidol rhyngweithiol ac unigryw Outernet.
Mae ceisiadau ar gyfer cam un, gweithdy ymsefydlu a gynhelir yn Tramshed Tech, ar agor nawr.