Cronfa Cyfalaf Cerddoriaeth 2025
NEWYDDION GAN: Cymru Greadigol
Gwnewch gais i’r Gronfa Cyfalaf Cerddoriaeth
Grantiau rhwng £10,000 a £40,000 ar gael i fusnesau cerddoriaeth bach a chanolig yng Nghymru.
Mae’r diwydiant cerddoriaeth fyw yng Nghymru yn hanfodol i ddatblygiad cerddorion a chynulleidfaoedd ledled y wlad ac mae busnesau cerddoriaeth yn llwyfan bwysig lle gall talentau cerddorol ddatblygu a thyfu a chael eu meithrin arni.
Mae rownd ddiweddaraf Cronfa Gyfalaf Cerddoriaeth Cymru Greadigol yn cynnig grantiau rhwng £10,000 a £40,000 i fusnesau cerddoriaeth bach a chanolig yng Nghymru. Y nod yw i’r busnesau hyn nodi meysydd o fewn eu sefydliadau a’u gweithgarwch y mae angen buddsoddiad cyfalaf arnynt. Byddai ymgeiswyr llwyddiannus i’r gronfa wedyn yn rhoi’r cyllid tuag at wella a chynyddu rhagolygon masnachol a chynaliadwyedd eu busnesau eu hunain, gan fod o fudd i’r diwydiant cerddoriaeth ehangach yng Nghymru naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.
Pwy all wneud cais?
Bydd angen i geisiadau gan fusnesau cerddoriaeth ddangos mai eu prif swyddogaeth yw rhaglennu, recordio neu gael eu defnyddio ar gyfer ymarfer cerddoriaeth wreiddiol a chynnal a/neu hyrwyddo digwyddiadau cerddoriaeth fyw o natur fasnachol. Gall y gerddoriaeth sy’n cael ei chynnal, ei recordio, ei hymarfer neu ei hyrwyddo gan y busnes gynrychioli’r sbectrwm llawn o fathau poblogaidd o gerddoriaeth gyfoes (electronig; hip-hop; indi ac amgen; metel a phync; pop; roc ac ati).
MANYLION YMA
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 26 Mehefin 2025 am canol dydd. Ni fydd unrhyw geisiadau hwyr yn cael eu hystyried.