CYHOEDDI 60+ O ENWAU SŴN 2025!

PRIF ŴYL I DDARGANFOD CERDDORIAETH YNG NGHYMRU SŴN YN CYHOEDDI’R DON GYNTAF O ARTISTIATID 2025 –
BYDD YR ŴYL AR DRAWS Y BRIFDDINAS 16 – 18 HYDREF
ARTISTIAID WEDI’U CYHOEDDI HEDDIW:
ANI GLASS
BREICHIAU HIR
BUDDUG
GEORGIA RUTH
GURRIES
MORN
MYKKI BLANCO
MAN/WOMAN/CHAINSAW
SYWEL NYW
SLATE
SHALE
TAI HAF HEB DRIGOLYN
TALULAH
+ LLAWER MWY
TOCYNNAU AR GAEL YMA
“Charming, a little slept on and flecked with magic.” – The Guardian
“Diverse and full of surprises.” – NME
“There’s something for everyone.” – DIY
“Sŵn Festival is setting the benchmark for festival line-ups and really hammers in a ‘no more excuses’
approach when it comes to diversity on line-ups… A perfectly run event, glued together by beautiful,
kind and community-driven people.” – Clash
Heddiw, mae Gŵyl Sŵn wedi cyhoeddi’r don gyntaf o artistiaid a fydd yn ymddangos yn yr ŵyl eleni. Mae’r ŵyl aml-leoliad yn cael ei chynnal ar draws y brifddinas o ddydd Iau 16 Hydref tan ddydd Sadwrn 18 Hydref. Unwaith eto eleni, mae’r ŵyl yn bartner balch i Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd. Mae Sŵn yn falch o fod yn rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd: dathliad hyd pythefnos o gigiau, sesiynau, gosodweithiau a digwyddiadau dros dro, gan harneisio pŵer cerddoriaeth,
perfformiad a thechnoleg i uno ac ysbrydoli.
Sefydlwyd Sŵn gan Huw Stephens yn 2007, ond ers 2018 tîm Clwb Ifor Bach sydd wrth y llyw. Eleni, bydd yr ŵyl tridiau yn cyflwyno perfformiadau mewn lleoliadau ar draws y ddinas, gan aros yn driw at weledigaeth graidd Sŵn sef meithrin talent leol, genedlaethol a rhyngwladol a chynnig llwyfan i artistiaid arddangos eu doniau.
Bydd ymroddiad Sŵn i ddathlu talent Cymraeg a Chymreig yn rhoi cyfle i’r gynulleidfa cael gwledd gan feistri roc barddonol a gothig Slate a mwynhau gitâr indie-pop gan Shale. Ymhlith y talentau Cymreig eraill i gadw llygad arnynt mae’r canwr-gyfansoddwr o Aberystwyth Georgia Ruth a’r cerddor pop electronig o Gaerdydd Ani Glass. Bydd cyfle i’r gynulleidfa cael eu swyno gan y gantores Buddug o Ogledd-orllewin Cymru ar ôl iddi ennill 4 gwobr yng ngwobrau’r Selar eleni.
Eleni hefyd, bydd sylw’n cael ei roi i Talulah, enillydd Gwobr Trisgel yng Ngwobrau Gerddoriaeth Gymreig 2023 am felodïau jazz a harmonïau breuddwydiol; yn ogystal â’r canwr-gyfansoddwr 18 oed o Ferthyr Tudful, Nancy Williams, talent newydd addawol yn sîn gwerin indie y DU.
Yn ychwanegol i’r artistiaid o Gymru mae Mykki Blanco, cerddor, bardd ac ymgyrchydd rhyngwladol enwog yn enw na ddylid ei golli yng ngŵyl eleni. Bydd y band celf-bync o Lundain, Man/Woman/Chainsaw, yn dod â’u cyfuniad deinamig o egni pync, offeryniaeth glasurol, a threfniadau arbrofol i strydoedd Caerdydd, a bydd y band pum darn ôl-bync Gwyddelig, Gurries, yn hawlio eich sylw gyda’u hegni crai a’u riffiau miniog.
Mae’r ŵyl unwaith eto yn cael ei gynnal mewn aml-leoliad dros y tridiau, gan berchnogi Stryd Womanby a thu hwnt gydag amserlen lawn o gerddoriaeth newydd a chyffrous. Eleni mae Tramshed, Clwb Ifor Bach, St John’s Church, Jacobs Basement, Fuel, The Canopi, Tiny Rebel, The New Moon a Porters yn cymryd rhan.
Meddai Adam Williams, rheolwr cerddoriaeth byw Sŵn:
“Rydym wrth ein bodd yn datgelu’r don gyntaf o artistiaid ar gyfer Gŵyl Sŵn 2025! Eleni, mae’r ŵyl yn dychwelyd gyda thri diwrnod llawn o gerddoriaeth newydd mewn lleoliadau cerddoriaeth Caerdydd – gyda dros 150 o artistiaid yn perfformio ar draws 10 llwyfan anhygoel. Rydym yn falch o hyrwyddo cerddoriaeth newydd a rhoi llwyfan i’r artistiaid anhygoel rydym yn cydweithio â nhw drwy gydol y flwyddyn – bydd llawer ohonynt yn chwarae eu sioeau mwyaf yng Nghymru hyd yn hyn. Ac mae mwy i ddod – rydym wrthi’n rhoi’r cyffyrddiadau olaf ar rai gwesteion arbennig iawn, meddiannu llwyfannau unigryw, ac ail gynnal ein cynhadledd datblygu artistiaid, Sŵn Connect. Byddwn yn rhannu’r mwy o fanylion yn fuan!”
Mae’r ŵyl eleni yn anelu i fod yn fwy hygyrch i’r gymuned ehangach, gan gyflwyno gynlluniau talu, tocynnau consesiwn a mwy o gyfleoedd i gymryd rhan trwy’r rhaglen wirfoddoli a chynllun cais i chwarae newydd sbon ar gael. Cofrestrwch i gael gwybod pan fydd ceisiadau’n agor.
NODIADAU I’R GOLYGYDD
RHESTR LAWN O’R ARTISTIAID A GYHOEDDWYD HEDDIW:
3L3D3P | Adult DVD | Angharad | Angry Blackmen | Ani Glass | Bramwell | Breichiau
Hir | Brown Horse | Buddug | C Turtle | Casual Smart | Clara Mann | Cubzoa |
Deadletter | Dog Race | The Gentle Good | Georgia Ruth | Getdown Services |
Graywave | Gurriers | Jessica Winter | John Myrtle | Kathryn Joseph | Keo | Lime
Garden | Man/Woman/Chainsaw | Marsy | Martha O’Brien | Men An Tol | MF
Tomlinson | Midding | Moonchild Sanelly | Morn | Mykki Blanco | Nancy Williams |
Neve Cariad | The New Cut | No Windows | Opal Mag | The Orchestra (For Now) |
Oreglo | Pale Blue Eyes | Papaya Noon | Peiriant | Prima Queen | Quiet Man |
Rabbitfoot | Saint Clair | Samana | Scustin | Shale | The Sick Man of Europe | Slate |
Sywel Nyw | Tai Haf Heb Drigolyn | Talulah | Tokomololo | Two Blinks, I Love You |
White Flowers | Whitelands | Zac Lawrence
—
GŴYL DINAS GERDD CAERDYDD | 3 – 18 HYDREF 2025
dinasgerddcaerdydd.cymru
Dathliad pythefnos o hyd, gyda gigs, digwyddiadau, gosodweithiau celf a safleoedd gwib, yn harneisio pŵer cerddoriaeth, perfformio a thechnoleg i uno ac ysbrydoli.
Bydd yr ŵyl yn dod â cherddorion, hyrwyddwyr ac arbenigwyr technoleg ymdrochol ynghyd o bell ac agos i greu cydweithrediadau unigryw a digwyddiadau untro
bythgofiadwy.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd, bydd yr ŵyl yn cynnwys cyfres o berfformiadau, gigs a digwyddiadau annisgwyl unigryw yng nghanol
prifddinas Cymru a hynny dros bymtheg diwrnod fydd yn llawn cerddoriaeth.
Bydd yn cwmpasu’r arddangosfa gerddoriaeth newydd sef gŵyl Sŵn, penwythnos celfyddydau rhyngwladol Canolfan Mileniwm Cymru, gŵyl Llais, a’r Wobr
Gerddoriaeth Gymreig fawreddog sy’n dathlu’r gerddoriaeth orau a wnaed yng Nghymru neu gan Gymry ledled y byd. Mae rhaglen yr ŵyl yn 2025 yn addo adeiladu
ar lwyddiant yr ŵyl gyntaf y llynedd gan barhau i wthio ffiniau arloesi mewn cerddoriaeth, perfformio a thechnoleg.
Mae’r ŵyl hon yn fenter allweddol yn Strategaeth Gerddoriaeth Caerdydd sy’n anelu at ddiogelu, hyrwyddo a datblygu sector cerddoriaeth y ddinas