Llais 2025: Cyhoeddi'r actau cyntaf | Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd

Yr hydref yma, mae Llais yn dychwelyd yn uwch, yn fwy beiddgar, ac yn fwy bythgofiadwy nag erioed.
O eiconau byd-eang a ffefrynnau’r dorf i dalent newydd syfrdanol, mae Llais 2025 (6 – 12 Hydref) yn dwyn ynghyd y doniau cerddorol mwyaf trydanol o dan un to. Dim mwd. Dim glaw. Dim ond sain o’r radd flaenaf, perfformiadau syfrdanol ac wythnos o gerddoriaeth drawsnewidiol.
Ymhlith yr uchafbwyntiau mae sioe unigol, unigryw gan Rufus Wainwright, a dychweliad yr eicon indie o Gymru Cate Le Bon, sy’n cyflwyno albwm newydd. Mae Adwaith yn nodi eu dengmlwyddiant gyda dwy sioe arbennig, tra bod y gantores-gyfansoddwraig a’r ymgyrchydd eiconig Beverly Glenn-Copeland, ynghyd â’r gwestai arbennig Elizabeth Copeland, yn gwneud ymddangosiad prin yn y DU i ddathlu dros 50 mlynedd o gelfyddyd sy’n herio pob genre.
Mae’r ŵyl hefyd yn croesawu sêr Soul yr Unol Daleithiau, Annie and the Caldwells, y canwr soddgrwth arbrofol o Guatemala, Mabe Fratti, y seren jazz o Mongolia Enji, yr artistiaid o Orllewin Affrica sy’n plethu genres, Vieux Farka Touré a Trio Da Kali, ac egni ffrwydrol Ibibio Sound Machine. Cynrychiolir adfywiad cerddoriaeth werin Iwerddon gan harmonïau a cappella Landless a cherddoriaeth electronig arloesol RÓIS.
Gall cynulleidfaoedd hefyd ddisgwyl perfformiadau gan enwebeion y Wobr Gerddoriaeth Gymreig a dathliad o leisiau operatig gorau BBC Canwr y Byd Caerdydd: Dathliad.
Bydd gŵyl eleni hefyd yn cynnwys Ceci est mon cœur (Dyma fy Nghalon) – profiad ymdrochol pwerus newydd, wedi’i gyfarwyddo gan Nicolas Biles a Stéphane Hueber-Blies. Mae’r darn yn archwilio stori garu ryfeddol: cymod plentyn â’i gorff. Profiad barddonol, aml-synhwyraidd clywedol, yn adrodd stori fel na theimlwyd erioed o’r blaen.
Mae rhai perfformiadau’n dal i fod yn gyfrinachol – ond credwch ni, fe fyddwch chi’n bendant am gadw golwg am unrhyw gyhoeddiadau.

BETH YW LLAIS?
Mae Llais yn wythnos o gerddoriaeth, perfformio ac adrodd straeon, ac yn ganolog i’r holl beth mae’r offeryn mwyaf pwerus mae pawb yn ei rannu: y llais dynol.
O hud Mali a meistrolaeth lais arloesol o Efrog Newydd, i enwogion indie Cymreig, jazz Mongolia, disgo Gospel, harmoni cyfriniol Gwyddelig ac avant-pop o Gwatamala, mae Llais yn lle i ddarganfod sain heb ffiniau.
Nid gŵyl yn unig mohoni. Mae’n ddathliad i’r offeryn mwyaf pwerus rydyn ni i gyd yn ei rannu, ein llais.
“Mae Llais yma i fwydo’ch enaid mewn ffyrdd na all unrhyw algorithm eu gwneud. Mae’r artistiaid hyn yn rhai go iawn, maen nhw’n fyw ac yn herfeiddiol. Mentrwch oddi ar eich llwybr arferol a dewch i brofi rhai o’r lleisiau gorau ar y blaned.”
Graeme Farrow, Prif Swyddog Creadigol a Chynnwys Canolfan Mileniwm Cymru
ADEILADU EICH GŴYL
Dewiswch eich sioeau. Archebwch eich seddi. Profwch yr hud – i gyd mewn un lleoliad eiconig.
Dim maes. Dim welis. Dim straen.
Dim ond lleisiau disglair, sain ysbrydoledig, a chysylltiad cerddorol.
Gostyngiadau sioeau lluosog:
10% i ffwrdd wrth archebu 2 sioe
15% i ffwrdd wrth archebu 3 neu fwy