Neidio i'r prif gynnwys

Novo Amor a Beacons Cymru yn Cyflwyno ‘Cronfa Birthplace’

Mae’r gwneuthurwr a’r cynhyrchydd cerddoriaeth o Gymru sydd wedi ennill clod rhyngwladol, Novo Amor, heddiw wedi cyhoeddi lansiad Y Gronfa Birthplace – menter arloesol a ddarperir mewn partneriaeth â Beacons Cymru. Mae’r gronfa, sy’n dod i gyfanswm o £25,000, yw’r gyntaf o’i fath yng Nghymru a bydd yn cael ei dosbarthu’n gyfartal ymhlith deg ymgeisydd llwyddiannus, gan ddarparu cymorth hollbwysig ac amserol ar gyfer eu dyfodol creadigol.

Nod y fenter hon yw rhyddhau crewyr, a rhoi’r amser a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i ganolbwyntio ar ddatblygu eu crefft a gwireddu eu potensial creadigol.

Rhoddir grantiau i gefnogi amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

– Prynu offer stiwdio.
– Defnyddio gwasanaethau stiwdio: megis cynhyrchu, cymysgu a mastering.
– Amser i ffwrdd o’r gwaith: galluogi artistiaid i neilltuo cyfnodau i ysgrifennu, ymarfer, recordio a chynhyrchu cerddoriaeth.
– Archwilio syniad creadigol: rhywbeth na fu’n bosibl o’r blaen.
– Costau i fentoriaid.
– Costau gofal plant neu gyfrifoldebau gofalu eraill.

Mae’r Gronfa Birthplace yn agored i unigolion 18-35 oed sy’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd.

Bydd ceisiadau yn agor ar 2 Mehefin 2025, ac yn cau ar 10 Gorffennaf 2025, am 23:59. Bydd ymgeiswyr yn cael eu hasesu ar sail potensial eu cerddoriaeth, yr effaith bydd y gronfa hon yn ei chael ar eu bywyd, a pha mor briodol yw’r prosiect..

Y pensaer y tu ôl i’r Gronfa Birthplace yw Ali Lacy, y cerddor o Gymru, Novo Amor a dywed,

“Rhoddodd cerddoriaeth ffordd i mi fynegi fy hun, i gysylltu â phobl, ac i adeiladu bywyd oedd yn teimlo’n driw i bwy ydw i. Mae wedi dod â llawenydd, pwrpas a chymuned i mi – ac rydw i eisiau i eraill gael yr un cyfle.

Creais y Gronfa Birthplace oherwydd rwy’n gwybod sut deimlad yw cael gwybod nad oes gennych chi botensial. Rwyf am helpu i newid hynny i eraill – i greu mwy o le ar gyfer creadigrwydd, cyfle, a chred, yma yng Nghymru.”

 

GWNEWCH GAIS YMA