Y tu ôl i’r Sîn gyda Owain o Klust

Gwefan gerddoriaeth annibynnol yw Klust sy’n cynnig llwyfan i artistiaid o bob cwr o Gymru. Boed yn creu cerddoriaeth pop neu synau arbrofol, yn enw newydd neu’n wyneb cyfarwydd, mae Klust yn hyrwyddo, cefnogi ac yn dathlu cerddoriaeth Gymreig drwy gyfrwng adolygiadau cynhwysfawr a chyhoeddiadau arbennig. Nod Klust yw dod a phobl o’r un anian ynghyd i gyffroi, profi a darganfod cerddoriaeth newydd o Gymru mewn man cynhwysol a blaengar.
DARLLENWCH EIN CYFWELIAD GYDA OWAIN

Allwch chi ddweud wrthym sut ydych yn rhan o’r sin gerddoriaeth yng Nghaerdydd a thu hwnt?
Owain ydw i a fi sydd y tu ôl i wefan gerddoriaeth Klust, platfform amlgyfrwng sy’n hyrwyddo artistiaid newydd o Gymru. Mae’r wefan, y cylchgrawn a’r sioeau byw i gyd wedi’u gwreiddio gan y syniad o hyrwyddo cerddoriaeth newydd o Gymru yn ddwyieithog ac yn hyderus. Dros y blynyddoedd diwethaf dw i wedi bod yn ffodus o allu cydweithio gydag ystod eang o bobl greadigol anhygoel, yn gweithio gyda’n gilydd i ddatblygu llwyfan sydd, gobeithio, yn teimlo’n flaengar, yn uchelgeisiol ac yn edrych tua’r dyfodol. .
Sut wnaethoch chi ddechrau gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth?
Dw i wastad wedi mwynhau cerddoriaeth, ysgrifennu a churadu, felly roedd cyfuno’r holl elfennau hynny wrth greu Klust yn teimlo’n naturiol iawn. O ddydd i ddydd, dw i hefyd yn gweithio gyda chwmni dosbarthu PYST, yn edrych ar ôl prosiectau ac ymgyrchoedd labeli o Gymru.
Beth ydych chi’n ei garu fwyaf am eich rôl(au)? A beth sydd wedi bod yn atgof neu gyflawniad nodedig
Dw i’n meddwl oedd llynedd yn dipyn o benchmark i Klust wrth i ni ddod ag albwm aml-gyfrannog at ei gilydd, law yn llaw â’n trydydd cylchgrawn. Yn bartneriaeth flwyddyn o hyd gyda Recordiau Sain, roedd rhyddhau’r feinyl—ynghyd â’r sioeau byw ar draws Llundain, Caerdydd, a Chaernarfon—yn deimlad balch iawn. Roedd hefyd ennill y wobr Rising Star (Industry) yng Ngwobrau Youth Music 2023 yn brofiad anhygoel..
Beth mae gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth wedi’i roi i chi?
Mae’r diwydiant cerddoriaeth, ynghyd â’r byd print a newyddiaduraeth, yn newid yn barhaus felly mae’n hawdd colli gafael ar hynny weithiau. Dw i’n teimlo’n ffodus iawn o fod yn gweithio yn y maes, yn enwedig yng Nghymru, ac yn mwynhau bod yn rhan fach o’r jig-so wrth weithio tuag at dirwedd gerddoriaeth sy’n fwy cynhwysol a hygyrch.
Beth sydd mor arbennig am sin gerddoriaeth Caerdydd? A allwch chi awgrymu rhai o artistiaid Cymraeg i gadw llygad arnynt eleni?
Mae rhai o’n hoff atgofion wedi’u creu yng Nghlwb Ifor Bach. Roedd gweld bandiau fel Sŵnami ac Yr Ods yn chwarae i llety llawn yn Clwb pan oni’n iau wedi siapio’n angerdd tuag at gerddoriaeth Cymraeg. Ar hyn o bryd, mae’n grêt gweld artistiaid fel Sywel Nyw a Tokomololo yn mynd i gyfeiriad mwy electroneg felly dwi’n edrych ymlaen at weld be fydd nesaf ganddyn nhw. Dwi’n edrych ymlaen hefyd at weld stwff newydd gan IFAND, Lleucu Non, Betsan Lees, a
SHINOBii
Hoff atgof o gig rydych chi wedi’i hyrwyddo yng Nghaerdydd?
Fe wnaethom gynnal degfed gig Klust yn y hyfryd Paradise Garden yn gynharach yn y flwyddyn i ddathlu lansiad yr albwm, ‘Stafell Sbâr Sain: Klust’. Roedd yn teimlo’n dda gallu rhoi noson o artistiaid electroneg ymlaen, a dwi’n gobeithio gallu gwneud mwy i’r cyfeiriad hwnnw dros y misoedd nesaf.
Beth yw cerddoriaeth fyw i chi?
Dwi wrth fy modd yn gweld band neu artist yn chwarae am y tro cyntaf a lle gwell i wneud hynny ‘na mewn gŵyl showcase. Hiroes i wyliau fel Sŵn!