Neidio i'r prif gynnwys

Sŵn 2025 | CADWCH Y DYDDIAD | GŴYL DINAS GERDD CAERDYDD

Rydym mor gyffrous i gyhoeddi y bydd Sŵn 2025 yn cael ei gynnal ar yr 16eg, 17eg a 18fed o Hydref, wrth i’r ŵyl ddychwelyd ar gyfer penwythnos hollol anhygoel o wallgo unwaith eto, a ni wir methu aros!

Yn union fel y llynedd, bydd Sŵn 2025 yn cychwyn ar y dydd Iau, ac yn gorffen ar y nos Sadwrn – felly ewch ati i wneud eich trefniadau!

Awydd mynediad cynnar ecsgliwsif i wneud yn siŵr eich bod chi’n cael eich tocynnau mor rhad â phosib? Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr Sŵn lle gallwch brynu eich tocynnau ddiwrnod cyfan yn gynnar! Hefyd – os ymunwch â’n rhestr bostio nawr, byddwch yn cael eich cynnwys mewn cystadleuaeth i ennill tocyn x2 i Sŵn 2025!

Mae Sŵn yn falch o fod yn rhan o Ŵyl @dinasgerddcaerdydd: dathliad hyd pythefnos o gigiau, sesiynau, gosodweithiau a digwyddiadau dros dro, gan harneisio pŵer cerddoriaeth, perfformiad a thechnoleg i uno ac ysbrydoli.

 

Tocynnau ar werth Dydd Gwener (30 Mai) am 10yb, a bydd mynediad cynnar yn fyw am 10yb Dydd Iau (29 Mai), YMA