Neidio i'r prif gynnwys

Mae Labordy CULTVR yn cyhoeddi dychweliad rhaglen Catalydd / Catalyst 360º

Mae Labordy CULTVR yn cyhoeddi dychweliad rhaglen Catalydd / Catalyst 360º, y rhaglen gyntaf erioed o breswyliadau Realiti Ymestynnol i’w chynnal yng Nghymru. Ers agor ei ddrysau yn 2019 mae Labordy CULTVR wedi bod yn cefnogi artistiaid digidol a throchol lleol a rhyngwladol i greu a chyflwyno gweithiau celf newydd. Mae rhaglen a rhychwant Catalydd 360º 2025 yn fwy uchelgeisiol nag erioed o’r blaen. Wedi galwad agored a ddenodd dros 300 o geisiadau gan artistiaid, mentrau cydweithio a sefydliadau ledled y byd, bydd Catalydd 360º yn cynnal 3 preswyliad trochol, 6 sioe arddangos Realiti Ymestynnol a digwyddiadau ‘Dim rhwystr i gymryd rhan’.

Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, mae rhaglen 2025 yn agor pennod newydd yn hanes Catalydd 360º. Byddwn yn parhau i hybu prosiectau celf digidol sy’n creu a chyflwyno straeon trochol ac arloesi technegol drwy breswyliadau ymchwilio, datblygu a chyflwyno sioeau trochol amlddisgyblaeth gyda holl adnoddau Labordy CULTVR. Bydd y preswyliadau hyn yn rhoi’r lle, amser ac adnoddau angenrheidiol i artistiaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol wthio ffiniau celfyddydau trochol.

Yn ogystal â’r preswyliadau, dewiswyd chwech o artistiaid a sefydliadau o Gymru i arddangos gweithiau Realiti Ymestynnol gwreiddiol yn ein cryndo. Bydd y cyflwyniadau Realiti Ymestynnol byw hyn yn gyfle i gynulleidfaoedd brofi prosiectau gwirioneddol flaengar – gan hybu deialog greadigol rhwng artistiaid a chynulleidfaoedd.

Mae cartref Labordy CULTVR yn Grangetown yng Nghaerdydd, ac rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod drws celfyddydau trochol ar agor i bawb. Bydd rhaglen Catalydd 360º 2025 yn cynnig gweithdai ymarferol, sgyrsiau gan artistiaid, ymarferiadau agored a theithiau tywys. A byddwn yn cynnal Diwrnod Agored ar 26 Gorffennaf a fydd yn gyfle i holl aelodau ein cymuned amrywiol i ddarganfod mwy a phrofi rhyfeddodau’r celfyddydau trochol ynghyd â chyfle i gwrdd â’r timau creadigol y tu ôl i’r prosiectau.

Dywedodd Matt Wright, Cyfarwyddwr Artistig Labordy CULTVR: “Roedd yr ymateb rhyngwladol i’n galwad agored yn anhygoel. Mae’n amlwg bod galw cynyddol am brosiectau trochol, ac rydyn ni’n falch i ddarparu llwyfan sydd nid yn unig yn hybu arloesi artistig ond sydd hefyd yn sicrhau bod cymunedau lleol yn rhan cwbl ganolog o’r profiad.”

 

Mae’r prosiectau a ddewiswyd ar gyfer tymor Catalydd 360º 2025 yn cynnwys:

23 Mai: Bydd Cwmni Cydweithredol Kitsch & Sync yn meddiannu’r Labordy i gynnal cabaret comedi trochol gyda chymeriadau’n ymddangos mewn mannau anisgwyl, perfformiadau gwib a gemau y gall pawb gymryd rhan ynddynt.

21 Mehefin: Prosiect Cydweithredol MWSOG yn dathlu heuldro’r haf gyda siwrne drwy dirwedd, iaith a llên gwerin Cymru – gan blethu cerddoriaeth fyw, barddoniaeth ac elfennau gweledol 360° i gorddi hiraeth.

12 Gorffennaf: Bydd Tomos Williams yn perfformio Cwmwl Tystion / Witness – gan gyfuno jazz, cerddoriaeth werin Gymraeg ac elfennau gweledol byw wrth fynd ar drywydd hanes, hunaniaeth a gwydnwch Cymru.

26 Gorffennaf: Mark Eaglen yn cyflwyno Quantum Foam – gwaith clyweledol sy’n cael ei lywio gan ymateb a rhyngweithiad y gynulleidfa. Gwaith ymchwil ym maes Theori Cwantwm sydd wedi ysbrydoli’r gwaith; mae’r sioe’n archwilio’r gofod rhwng pethau a syniadau am achos ac effaith ar draws cyflyrau graddfa ac amser cyfnewidiol.

1 Awst: Jack Philp – We Live in an Old Chaos of the Sun. Mae’r prosiect cydweithio yma rhwng Jack Philp Dance ac Uncharted Limbo Collective yn plethu coreograffi a thechnoleg ddigidol trochol amser real mewn amgylchedd 360º. Drwy’r profiad creadigol hwn mae’r corff dynol yn gatalydd i ecosystem ddigidol ymatebol sy’n esblygu’n barhaus.

8 Awst: Bydd Alma Digital yn ein cyflwyno i Neurocosm, profiad Clyweledol (AV) trochol sy’n defnyddio cynrychiolaeth amser real o ddata a chelf Dealltwriaeth Artiffisial Gynhyrchiol i archwilio camau myfyrio meddylgar.

15 Awst: Movement 81 yn cyflwyno profiad clyweledol gan Jason&Becky – yn archwilio gwyddoniaeth a moeseg technoleg ddatblygol gyda chymorth offeryn wedi’i deilwra’n arbennig sy’n defnyddio egwyddorion a dulliau mecaneg cyfrifiaduro cwantwm.

29 Awst: Bydd Gwen Siôn yn perfformio Atlantis 2050, prosiect amlddisgyblaeth sy’n troi data amgylcheddol yn gyfuniad o gerddoriaeth iasol ac elfennau gweledol trochol, gan fwrw golau ar effaith codiad lefelau moroedd ac erydu arfordirol.

19 Medi: Immersive-me yn cyflwyno Delta, arbrawf byw lle mae gweithgaredd niwral yn siapio’r amgylchedd berfformio mewn amser real – lle mae’r ymenydd yn arweinydd a chynfas.

Mae mwy o wybodaeth am dymor Catalydd 360º 2025 a manylion tocynnau ar gael YMA