Neidio i'r prif gynnwys

Beacons Cymru x PPL: Cyflwyniad i PPL

NEWYDDION GAN BEACONS CYMRU:

Os ydych chi eisiau gwneud gyrfa allan o waith cerddoriaeth sesiwn a chael eich talu bob tro y byddwch chi’n recordio gydag artistiaid – rydych chi mewn lwc! Ni’n cynnal sgwrs ar-lein AM DDIM ar sut mae hawliau perfformio yn gweithio.

PPL yw’r sefydliad trwyddedu cerddoriaeth yn y DU ar gyfer dros 150,000 o berfformwyr ac aelodau sy’n dal hawliau recordio. Maent yn cynrychioli pawb o gerddorion sesiwn ac enwau cyfarwydd i artistiaid sy’n rhyddhau eu hunain a labeli recordio annibynnol a mawr. Mae’r rhain yn cynnwys aelodau fel Charli XCX, Lewis Capaldi, The Last Dinner Party, Trevor Horn, Blossoms a llawer mwy. Ymunwch â’r cydlynydd hawliau Ollie o PPL, i ddarganfod mwy am eu gwaith ac i ddarganfod sut mae hawliau perfformio’n gweithio.

Wedi’i wneud yn bosibl diolch i PPL.

Manylion YMA