Neidio i'r prif gynnwys

Blwyddyn Croeso: Cronfa Addasu i’r Tywydd ar gyfer Atyniadau Twristiaeth 2025-2026

Mae Croeso Cymru yn rhedeg cronfa sy’n cynnig grantiau cyfalaf bach yn 2025-2026 er mwyn cefnogi atyniadau twristiaeth i fuddsoddi mewn mesurau i addasu i’r tywydd.

Amcanion y gronfa

Mae atyniadau twristiaeth yn tynnu sylw at dywydd gwael fel ffactor o bwys sy’n cael effaith ar fasnachu. Mae Strategaeth Addasu i’r Hinsawdd Llywodraeth Cymru yn amlinellu ei dull o liniaru effeithiau hinsawdd ac mae’r Cynllun Gweithredu Addasu ar gyfer Busnesau yn pwysleisio’r angen i ddiogelu busnesau ac ystyried dulliau ariannu sy’n cefnogi gwytnwch. Nod ein Strategaeth Dwristiaeth yw rhoi hwb i wariant ymwelwyr a hyrwyddo twristiaeth drwy gydol y flwyddyn ond mae busnesau yn adrodd bod tywydd garw yn rhwystro’r nodau hyn.

Pwrpas y gronfa

Mae cyfnodau o dywydd gwael yn effeithio’n negyddol ar fusnesau atyniad twristiaeth mewn dwy brif ffordd:

trwy atal y busnes rhag gweithredu yn ôl ei arfer (er enghraifft, os mae cyfleuster o dan dŵr)
trwy effeithio’n negyddol ar brofiad ymwelwyr a/neu beri iddynt beidio ymweld.
Bydd mesurau i addasu i’r tywydd a gefnogir gan y Gronfa hon yn anelu at:

lliniaru’r effeithiau hyn trwy helpu i gefnogi gwytnwch economaidd y busnes a’i allu i ymaddasu,
cryfhau gwytnwch hinsawdd y busnes,
helpu i alluogi’r busnes i gynnig ei groeso gorau posibl i ymwelwyr yn ystod Blwyddyn Croeso 2025.
Beth fydd yn cael ei ariannu?

Mae’r Gronfa yn cynnig grantiau cyfalaf rhwng £5,000 a £20,000. Rhaid eu defnyddio cyn 31 Mawrth 2026. Ni fydd unrhyw gostau refeniw yn cael eu hystyried. Gall y grant gefnogi hyd at 75% o gostau’r mesurau addasu (neu hyd at £20,000 os yw hyn yn llai na 75% o’r costau).

Rhaid i weddill y costau gael eu hariannu gan y busnes o’i gronfeydd ei hun neu o ffynonellau cyllid preifat. Ni all ymgeiswyr ddefnyddio unrhyw fath arall o grant neu gyllid gan unrhyw sefydliad sector cyhoeddus fel arian cyfatebol.

Rhaid cwblhau’r prosiect a’r gwariant yn llawn a hawlio’r grant erbyn 31 Mawrth 2026.

Bydd mesurau cymwys i addasu i’r tywydd yn cynnwys:

mesurau sy’n lliniaru effaith tywydd gwael ar y busnes
mesurau sy’n lliniaru effaith tywydd gwael ar brofiad ymwelwyr
Darllenwch y Canllawiau i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n gymwys.

Pwy sy’n gymwys?

Busnesau atyniadau twristiaeth yng Nghymru sydd:

wedi’u hachredu fel atyniadau ymwelwyr o dan gynllun VAQAS (neu’n gymwys ac yn barod i geisio achrediad VAQAS fel amod grant)
yn fentrau micro, bach neu ganolig (yn cyflogi hyd at 249 o weithwyr)
wedi bod yn masnachu am o leiaf flwyddyn fel cwmni cyfyngedig, partneriaeth neu unig fasnachwr neu fel menter gymdeithasol
yn derbyn ymwelwyr mewn lleoliad lle gall tywydd gwael effeithio ar berfformiad y busnes a phrofiad yr ymwelwyr

 

Manylion YMA