Cyllid cyfalaf yn cael ei ddarparu i gefnogi lleoliadau cerddoriaeth llawr gwlad yng Nghaerdydd
Mae lleoliadau cerddoriaeth llawr gwlad yng Nghaerdydd wedi derbyn bron i £200,000 trwy gronfa lleoliadau llawr gwlad a sefydlwyd gan Gyngor Caerdydd.
Mae’r grantiau wedi galluogi lleoliadau cerddoriaeth fyw gan gynnwys Clwb Ifor Bach, Porters, Canolfan Gelfyddydau’r Chapter, The New Moon, Paradise Garden, Acapela, Tiny Rebel a The Canopi i wneud gwelliannau a phrynu offer newydd hanfodol.
Esther a David yn Paradise Garden ar Heol y Plwca. Llun gan: Jake Rowles
Mae’r cyllid yn rhan o waith Dinas Gerdd Caerdydd yr awdurdod lleol i ddiogelu a datblygu sector cerddoriaeth y ddinas sydd hefyd wedi gweld cynllun datblygu talent newydd yn cael ei lansio yn ysgolion y ddinas, lansio ‘Academi’ newydd ar gyfer cerddorion ifanc, a chynnal yr Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd gyntaf erioed.
Un lleoliad i dderbyn grant oedd The Canopi, lleoliad llawr gwlad newydd a gofod creadigol ar lawr gwaelod The Sustainable Studio ar Stryd Tudor. Dywedodd Julia Harris, sy’n rhedeg y gofod yn hen Glwb Trafnidiaeth Cyngor Caerdydd:
“Un o’r pethau oedd ar fy rhestr oedd gofod i gerddoriaeth llawr gwlad ddigwydd, y gigs cyntaf hynny y mae angen i bobl eu cael, y profiadau cyntaf hynny o leoliad cefnogol. Rydyn ni’n bendant yn un o’r rheini. Rydyn ni’n ofod cychwynnol. Rydyn ni wedi cael rhestr amrywiol o ddigwyddiadau hyd yn hyn ac unrhyw beth o RazKid i air llafar hip-hop, lansio EPs ar gyfer artistiaid gwerin, a phrofiadau o ymgolli yng ngherddoriaeth band. Dwi’n teimlo y gall unrhyw un roi unrhyw beth ymlaen yn y fan hon. Mae’r cyfan wedi gweithio ac wedi mynd yn dda iawn.
“Mae Cyngor Caerdydd wedi bod yn allweddol i ni gael agor. Dwi’n credu ein bod wedi manteisio ar grantiau anhygoel sydd wedi caniatáu i ni wneud y lleoliad yn hygyrch a phrynu offer newydd hefyd.”
Roedd The New Moon, a agorodd ar Stryd Womanby yn gynharach eleni, yn lleoliad annibynnol newydd arall i dderbyn grant. Dywedodd Reem Mohammed, Rhaglennydd Digwyddiadau’r lleoliad:
“Mae Cyngor Caerdydd wedi bod yn wirioneddol anhygoel trwy gydol y broses hon. Rydyn ni wedi derbyn grant ganddyn nhw i helpu gydag offer sydd wedi bod yn wych oherwydd pan wnaethon ni agor y drws roedden ni wir eisiau cael offer a sain o ansawdd uchel i’r cerddorion hyn, fel eu bod yn cael eu harddangos ar eu gorau, a hebddyn nhw ni allem fod wedi cyflawni hynny, felly rydyn ni’n ddiolchgar iawn.”
Mae’r fenter gymdeithasol nid er elw, y Queer Emporium, yn lle diogel i’r gymuned LHDTC sydd hefyd yn cynnal digwyddiadau, gyda’u digwyddiadau mwy ar gyfer hyd at 100 o bobl yn cael eu cynnal yn yr Arcêd Frenhinol. Dywedodd y Sylfaenydd a’r Cyfarwyddwr, Yan White:
“Trwy gael y grant gan Gyngor Caerdydd, mae’n golygu ein bod wedi llwyddo i uwchraddio ein hoffer technoleg yn sylweddol ar gyfer y digwyddiadau, sy’n golygu os ydych chi’n dod nawr, byddwch chi’n gweld bod gennym lwyfan wedi’i oleuo’n llawn gyda goleuadau sy’n mynd i fyny drwy’r Arcêd. Mae wedi uwchraddio popeth rydyn ni wedi llwyddo i’w wneud, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd hynny’n arwain at fwy o bobl yn dod i mewn ac yn defnyddio’r gofod.”
Y tu allan i ganol y ddinas, ar Heol y Plwca yn y Rhath, sy’n brysur iawn, mae Paradise Garden yn lleoliad annibynnol arall sydd wedi cael budd grant. Dywedodd cyd-sylfaenydd y lleoliad, Esther Taylor:
“Mae’r gefnogaeth rydyn ni wedi’i gael gan Gyngor Caerdydd wedi bod yn dda iawn oherwydd gallwn brynu offer yn hytrach na’i rentu ac mae wedi arbed llawer o arian i ni. Mae wedi ein helpu ni i ehangu faint o gerddoriaeth fyw rydyn ni’n ei wneud.”
Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau:
“Rydym wedi ymrwymo i gefnogi, datblygu a hyrwyddo sector cerddoriaeth Caerdydd. Mae lleoliadau ar lawr gwlad yn chwarae rhan hanfodol yn sîn gerddoriaeth y ddinas ac mae’r grantiau hyn yn darparu cymorth ariannol pwysig ar adeg pan fyddan nhw, fel lleoliadau ledled y DU, yn wynebu heriau sylweddol.
“Byddwn yn parhau i chwilio am ffyrdd y gallwn gefnogi lleoliadau, ond y gwir amdani yw nad yw’r cyllid na’r pŵer gennym i gamu i mewn bob tro y mae lleoliad yn cael trafferthion. Y ffordd orau o ddiogelu lleoliadau yw eu defnyddio a byddwn yn annog pawb i archebu tocyn i gig mewn lleoliad lleol – pwy â ŵyr, efallai y byddwch chi’n darganfod eich hoff artist nesaf.”
Cefnogwyd y Gronfa Lleoliadau Llawr Gwlad gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Y rhestr lawn o’r sefydliadau a gefnogir yw:
- Sustainable Studios/The Canopi
- Porters
- 4pi Productions
- Talent Shack
- Clwb Ifor Bach
- Acapela
- Tiny Rebel
- Brewhouse
- The Dock
- Canolfan Gelfyddydau’r Chapter
- The New Moon
- Paradise Garden
- The Queer Emporium
- Tafarn y Grange
- Stiwdios Silkcrayon