Ymgynghoriad ar agor: Rhoi cefnogwyr yn gyntaf: ymgynghoriad ar ailwerthu tocynnau digwyddiadau byw
Mae Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar gynigion i gryfhau amddiffyniadau defnyddwyr mewn perthynas ag ailwerthu tocynnau.
Nod yr ymgynghoriad hwn yw gwella ein dealltwriaeth am broblemau parhaus yn y farchnad ailwerthu tocynnau ac i geisio barn ar gynigion posibl sy’n anelu at wella tegwch i gefnogwyr.
Rydym yn annog yr holl randdeiliaid sydd â diddordeb i ymateb, gan gynnwys:
- cefnogwyr
- llwyfannau tocynnau
- y sector digwyddiadau byw ehangach
Paratowyd yr ymgynghoriad hwn gan yr Adran Busnes a Masnach (ABM) a’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.
Mae’r broses ymgynghori’n cau am 11:59pm ar 4 Ebrill 2025