CULTVR yn cyflwyno tri pherfformiad trochol byw yn dathlu cerddoriaeth Gymraeg

Mae Labordy CULTVR, canolfan gyntaf y DU ar gyfer gweithiau a pherfformiadau traws-ddisgyblaethol trochol, yn falch i gyhoeddi cyfres o berfformiadau byw hynod yn dathlu cerddoriaeth Gymraeg yn ein gofod perfformio 360° arloesol. Byddwn yn cyflwyno perfformiadau gan dri artist nodedig o Gymru – The Gentle Good, HMS Morris a Lily Beau – gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy fenter Cymru Greadigol a Bubblewrap Collective. Mae’n addo bod yn brofiad unigryw a bythgofiadwy.
Mae Labordy CULTVR yn rhoi llwyfan i weithiau sy’n plethu cerddoriaeth, dulliau blaengar o adrodd straeon ac elfennau gweledol trochol. Ein cenhadaeth yw gwthio ffiniau’r perfformiad byw. Mae pob un o’r artistiaid hyn yn cynrychioli egni a bwrlwm y sîn gerddoriaeth yng Nghymru, gan gyfuno’r traddodiadol gyda sŵn cyfoes i gyfareddu cynulleidfaoedd mewn ffordd hollol newydd.
The Gentle Good yw prosiect cerddoriaeth gwerin y cerddor gwobrwyedig Gareth Bonello. Mae wedi ennill bri am ei gyfansoddiadau acwstig cywrain ac arddull storïol gelfydd ei ganeuon Cymraeg. Mae ei waith yn plethu caneuon ac alawon gwerin traddodiadol Cymraeg a dylanwadau byd-eang, gan gynnwys elfennau o draddodiadau cerddorol Tsieina ac India. Mae ei waith a’i ganeuon meistrolgar sy’n amlygu harddwch y Gymraeg wedi ennill clod a chanmoliaeth eang, gan gynnwys y Wobr Gerddoriaeth Gymraeg.
Mae HMS Morris yn grŵp pop avant garde deinamig sy’n cymysgu roc seicadelig, curiadau electronig ac arddull storïol llawn dychymyg. Mae’r band, sy’n byw a gweithio yng Nghaerdydd ar hyn o bryd, wedi ennill clod am berfformiadau byw egnïol, elfennau gweledol swreal a dull arloesol o greu caneuon sy’n aml yn taclo themâu’n ymwneud â hunaniaeth, iaith a threftadaeth Gymreig. Mae amrywiaeth unigryw eu dylanwadau sonig a’u perfformiadau byw theatrig yn eu gwneud yn un o artistiaid mwyaf nodedig y sîn gerddoriaeth gyfoes yng Nghymru.
Mae Lily Beau yn artist sy’n dechrau ennill ei phlwyf yng Nghymru a thu hwnt. Mae ei llais llawn enaid a’i dehongliad cyfoes o gerddoriaeth Gymraeg wedi cyfareddu cynulleidfaoedd ledled Cymru. Gan gyfuno elfennau o pop, R&B a gwerin mae’n dod â phersbectif ffres a modern i gerddoriaeth Gymraeg gan gysylltu â chenhedlaeth newydd o wrandawyr. Mae cywair emosiynol ei pherfformiadau a’i hymrwymiad i hybu cerddoriaeth Gymraeg yn ei gwneud yn artist cyffrous a cherddor i gadw llygad arni.
“Mae’r perfformiadau hyn yn fwy na dim ond cyngherddau; maen nhw’n siwrneiau trochol drwy sain, iaith a chrefft artistig weledol,” meddai Janire Najera, Cyfarwyddwr Creadigol yn Labordy CULTVR. “Rydyn ni’n ymroi i gefnogi artistiaid sy’n gweithio yn y Gymraeg a chynnig profiadau diwylliannol unigryw i gynulleidfaoedd sy’n dangos amrywiaeth a rhychwant y dalent sydd gan Gymru i’w gynnig.”
Bydd y digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd, yng nghryndo CULTVR – canolfan flaengar a gynlluniwyd i gyflwyno profiadau trochol a rhyngweithiol. Bydd pob perfformiad yn cynnwys elfennau gweledol 360° a fydd yn cael eu cynhyrchu gan 4Pi Productions, gan drawsnewid y gofod yn wledd glyweledol a fydd yn brofiad unigryw i synhwyrau’r gynulleidfa.
Tocynnau ar gael nawr o https://www.cultvr.cymru/cy/whats-on/
Lily Beau – 28 Mawrth 2025
HMS Morris – 26 Ebrill 2025
The Gentle Good – 17 Mai 2025