Neidio i'r prif gynnwys

Blŵm | Gweithdy DJ yn Paradise Garden | Ymgeisiwch nawr!

Mae Blŵm yn fenter newydd gan Paradise Garden sy’n anelu i fynd i’r afael ag anghydbwysedd rhwng y
rhywiau yn sîn DJ a cherddoriaeth electronig Caerdydd.

Rydym ni’n cynnal gweithdy DJ tridiau, sesiwn ragarweiniol, a digwyddiad cymdeithasol yn Paradise Garden ym mis Mawrth 2025 ar gyfer DJs FLINTA* sy’n dod i’r amlwg yng Nghaerdydd.

Dan arweiniad mentoriaid profiadol, mae Blwm yn cynnig cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth am y diwydiant – gan eich paratoi i gymryd y camau nesaf yn eich gyrfa DJ.

Am mwy o wybodaeth, ac I wneud cais ewch i paradise-garden.co.uk/blwm

Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn hanner dydd, 21ain o Fawrth.

 

Cefnogir gan:
Dinas Gerdd Caerdydd / Cyngor Caerdydd / Llywodraeth y DU Cymru