Y tu ôl i'r Sîn gyda MACE THE GREAT
Fel rhan o’n cyfres ffotograffau wedi’i chomisiynu gan Ren Faulkner, sy’n cynnwys artistiaid cyffrous naill ai o Gaerdydd neu sydd â chysylltiad â MACE THE GREAT.
Yn dilyn ymlaen o gyfres o senglau a gafodd eu cymeradwyo gan y diwydiant, rhan yn rhaglen ddogfen y BBC, ‘Wales: Music Nation’, a’i gysylltiad â Chymdeithas Bêl-droed Cymru ar gyfer yr ymgyrch Cwpan y Byd, mae Mace The Great yn parhau i fynd â rap Cymru yn fyd-eang. Mae ei record hir ‘SplottWorld’ wedi’i henwi ar ôl ei dref enedigol yma yng Nghaerdydd.
DARLLENWCH EIN CYFWELIAD GYDA MACE THE GREAT
Beth oedd yr artist, yr albwm neu’r gân gyntaf a wnaeth i chi syrthio mewn cariad â cherddoriaeth?
Yr albwm cyntaf wnaeth fi’n ffan o gerddoriaeth oedd 50 Cent ‘Get Rich or Die Trying’
Oes unrhyw ffynonellau annisgwyl o ysbrydoliaeth sy’n dylanwadu ar eich gwaith?
BMae cynifer o wahanol bethau sy’n ysbrydoli fy ngwaith i ond dyma rai ohonyn nhw – straeon pobl eraill a fy nheulu a ffrindiau.

Pe gallech ddewis unrhyw 3 artist yn y byd i berfformio mewn Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn y dyfodol, pwy byddech chi’n ei ddewis?
50 Cent, Tems a Skepta.
Oes ’na ran o Gaerdydd sy’n teimlo’n arbennig o gysylltiedig â’ch cerddoriaeth neu eich taith bersonol fel artist?
Y Sblot fyddai hynny, lle ces i fy magu, fodd bynnag, mae gyda fi gysylltiadau â Chaerdydd yn gyffredinol.

Beth yw eich hoff atgof o gig yng Nghaerdydd, naill ai un rydych chi wedi mynd iddo neu un rydych wedi’i berfformio, a beth wnaeth e mor arbennig?
Yn cefnogi Dizzee Rascal yn Utilita Arena, Caerdydd.
Pa artistiaid Cymreig sy’n gwneud pethau cyffrous ar hyn o bryd ac yn haeddu sylw pobl, yn eich barn chi?
Celo, Real Mud Babies, baddathanwho, Local a llawer mwy!

Pe gallech chi gydweithio ag unrhyw artist neu gynhyrchydd, pwy byddech chi’n ei ddewis?
Y cynhyrchydd fyddai Skepta, yr artist fyddai Stormzy.
Allwch chi ddweud wrthyn ni sut cafodd y digwyddiad Croeso i Gymru yng Ngŵyl Dinas Gerdd Caerdydd ei lunio, y broses o’i ddwyn ynghyd, a’r ymateb a gafodd?
Roedd Perrie a finnau eisiau tynnu sylw at y ddinas oedd yn gynrychiolaeth wirioneddol o’r sîn
gerddoriaeth â tharddiad du yng Nghymru heddiw; y nod oedd rhoi cyfle i eraill ac rwy’n credu ei fod wedi cael y croeso gorau posibl.
Beth oeddech chi’n ei hoffi fwyaf am y noson honno a beth wnaethoch chi ei ddysgu fwyaf??
Dydy gadael i eraill dywynnu ddim yn pylu eich disgleirdeb chi… Dydy e ddim yn beth hunanol – mae’n cymryd pob un ohonon ni wneud i adegau o’r fath ddigwydd.

GWRANDEWCH AR MACE THE GREAT