POBL IFANC GREADIGOL Y BYD CERDDORIAETH… RYDYM NI’N RECRIWTIO!

ANTHEM FFWD>>
POBL IFANC GREADIGOL Y BYD CERDDORIAETH… RYDYM NI’N RECRIWTIO!
Ydych chi rhwng 17 a 24 oed, yn seiliedig yng Nghymru a gyda ddiddordeb mewn cerddoriaeth?
Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth, helpu i greu llwybrau i bobl ifanc gael i mewn i gerddoriaeth, a chyflymu eich datblygiad personol mewn cerddoriaeth yng Nghymru?
Ymunwch â ni – mae lle i chi yn Anthem FFWD>>!
AM BETH YDYM NI’N CHWILIO?
Rydym ni’n chwilio am bobl ifanc greadigol, 17-24 oed, sy’n cynrychioli amrywiaeth o brofiadau a genres cerddorol i ymuno ag Anthem FFWD>>. Nod Anthem yw rhoi pobl ifanc yng nghalon ein gwaith wrth i ni dyfu. Fe fyddem wrth ein bodd yn cydweithio gyda chi!
Efallai eich bod yn gerddor gweithgar, yn dyheu i fod yn gerddor, yn astudio cerddoriaeth, yn gerddor ystafell wely, yn weithiwr cerddoriaeth proffesiynol sy’n gynnar yn eich gyrfa, yn wrandäwr brwd, yn ysgrifennu cerddoriaeth, yn blogio neu flogio am gerddoriaeth; neu’n rywun y mae cerddoriaeth yn gwneud gwahaniaeth iddynt.
Bydd hefyd angen i chi:
- Bod yn seiliedig yng Nghymru
- Bod yn gyfarwydd â phlatfformau’r cyfryngau cymdeithasol a Zoom
- Ymrwymo i fynychu cyfarfodydd
- Bod â mynediad i’r we.