Neidio i'r prif gynnwys

Y tu ôl i’r Sîn gyda Julia Harris o The Sustainable Studio

Wrth chwilio am safle newydd ar gyfer eu gofod dan arweiniad artistiaid, cydweithiodd The Sustainable Studio â Chyngor Caerdydd i ddod o hyd i gartref newydd yn yr hen Transport Club ar Tudor Steet.

Ar ôl agor eu drysau yn ddiweddar yn dilyn cefnogaeth gan y Cyngor ar brydles tair blynedd, fe ddalion ni lan gyda’r cyd-sylfaenydd Julia Harris am Gaerdydd, cerddoriaeth fyw, yn ogystal â’r stiwdio newydd gyffrous, a sut mae pob un o’r pethau mae hi’n ei garu yn bwydo i mewn i’r llall.

 DARLLENWCH EIN CYFWELIAD GYDA JULIA HARRIS



Dywedwch wrthym am The Sustainable Studio.

Mae The Sustainable Studio yn weithle deinamig, creadigol sydd wedi’i gynllunio i feithrin cydweithredu ac arloesedd. Mae’n hwb i artistiaid, dylunwyr a gwneuthurwyr sy’n angerddol am gynaliadwyedd a chreadigrwydd. Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o gyfleusterau gan gynnwys mannau cyd-weithio, stiwdios, ac erbyn hyn, lleoliad cerddoriaeth fyw. Ein nod yw darparu amgylchedd cefnogol lle gall gweithwyr proffesiynol creadigol ffynnu, rhannu syniadau, a chynhyrchu gwaith sydd nid yn unig yn rhagorol o ran ansawdd ond sydd hefyd yn cofleidio arferion cynaliadwy.

Pa mor bwysig oedd hi fod gofod ar gyfer cerddoriaeth fyw yn y lleoliad newydd?

Roedd cael gofod ar gyfer cerddoriaeth fyw yn hynod bwysig i ni. Mae cerddoriaeth yn ffurf bwerus o fynegiant artistig ac yn agwedd bwysig ar fywyd diwylliannol. Trwy ymgorffori lleoliad cerddoriaeth fyw, gallwn gefnogi cerddorion lleol, rhoi llwyfan ar gyfer talentau cerddorol amrywiol, a chreu hwb diwylliannol bywiog. Mae’n cyd-fynd â’n cenhadaeth i hyrwyddo creadigrwydd o bob ffurf a gwneud The Sustainable Studio yn ofod deinamig, amlddisgyblaethol.

Beth fydd digwyddiadau cerddoriaeth fyw yn ei ychwanegu at The Sustainable Studio?

Bydd digwyddiadau cerddoriaeth fyw yn llenwi The Sustainable Studio ag egni a chyffro. Byddant yn denu cynulleidfa ehangach, yn meithrin ymdeimlad o gymuned, ac yn creu cyfleoedd i gydweithio rhwng cerddorion a phobl greadigol eraill. Bydd y digwyddiadau hyn hefyd yn gwella ein harlwy diwylliannol, gan wneud y stiwdio nid yn unig yn lle gwaith ond yn gyrchfan ar gyfer adloniant ac ysbrydoliaeth.

Dywedwch wrthym am eich profiad o weithio gyda Chyngor Caerdydd.

Mae gweithio gyda Chyngor Caerdydd wedi bod yn brofiad cadarnhaol a chydweithredol. Maen nhw wedi bod yn gefnogol i’n gweledigaeth ac yn allweddol wrth ein helpu i lywio’r agweddau logistaidd a rheoliadol ar sefydlu ein lleoliad newydd. Mae eu hymrwymiad i gefnogi’r celfyddydau a meithrin diwydiannau creadigol yng Nghaerdydd wedi bod yn amlwg drwy gydol ein partneriaeth.

Pa mor fawr yw’r rhan y mae cerddoriaeth fyw yn ei chwarae yn y gymuned gelfyddydol yng Nghaerdydd?

Mae cerddoriaeth fyw yn rhan hanfodol o gymuned gelfyddydol Caerdydd. Mae gan y ddinas dreftadaeth gerddorol gyfoethog a sîn gyfoes fywiog sy’n cynnwys popeth o fandiau indie i berfformiadau clasurol. Mae cerddoriaeth fyw yn dod â phobl at ei gilydd, yn cyfoethogi’r dirwedd ddiwylliannol, ac yn gyrru gweithgarwch economaidd. Mae’n gonglfaen i hunaniaeth Caerdydd fel prifddinas ddiwylliannol.

Pa mor hanfodol yw mannau creadigol i ddinas fywiog?

Mae mannau creadigol yn hollbwysig i ddinas fywiog. Maent yn gweithredu fel deoryddion ar gyfer arloesi, yn rhoi cyfleoedd ar gyfer mynegiant diwylliannol, ac yn cyfrannu at ansawdd bywyd cyffredinol yn y ddinas. Mae’r mannau hyn yn denu talent, yn ysgogi’r economi, ac yn gwneud y ddinas yn lle cyffrous a deinamig i fyw, gweithio ac ymweld â hi.

Ydy’r gofod newydd yn eich galluogi i drio pethau newydd neu i wthio’r ffiniau o ran yr hyn all ddigwydd yma?

Yn bendant.  Mae’r gofod newydd yn agor byd o bosibiliadau. Gyda’r lleoliad cerddoriaeth fyw, gallwn gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau fel sesiynau acwstig personol, perfformiadau arbrofol, a chydweithio trawsddisgyblaethol. Mae’n caniatáu i ni wthio ffiniau’r hyn y gall The Sustainable Studio ei gynnig ac arloesi yn barhaus yn ein rhaglennu.

Beth yw dy hoff atgof o gerddoriaeth fyw yng Nghaerdydd?

Un o fy hoff atgofion yw cefnogi Damian Rice yn y Toucan Club pan oeddwn i’n arfer gigio fel perfformwraig unigol. Roedd yr awyrgylch yn wefreiddiol gan fod Damien yn creu cryn gyffro ar ei daith unigol gyntaf yn y DU. Roedd y dorf ar yr un donfedd â ni, ac roedd y perfformiad yn fythgofiadwy. Un o’r nosweithiau hynny oedd hi lle ddaeth popeth at ei gilydd yn berffaith yn un o’r lleoliadau mwyaf clyd. Roeddet ti’n gwybod bod y dyn hwn yn mynd i fod yn enfawr ac mai ti oedd un o’r bobl gyntaf i glywed ei gerddoriaeth cyn iddo fynd yn fyd-eang!

Beth mae cerddoriaeth fyw yn ei olygu i chi?

Mae cerddoriaeth fyw yn ffordd o adrodd straeon a mynegiant emosiynol sy’n cysylltu pobl ar lefel ddofn. Egni’r dorf, natur ddigymell y perfformiad a’r profiad a rennir sy’n ei gwneud mor arbennig. Mae’n rhan hanfodol o ddiwylliant a chymdeithas.

Mewn tri gair, pa bethau ydych chi’n eu caru fwyaf am Gaerdydd fel dinas gerdd?

Amrywiol. Angerddol. Ysbrydoledig.

CADWCH YN GYFOES

Cofrestrwch ar gyfer Dinas Gerdd Caerdydd i dderbyn diweddariadau cyffrous yn ymwneud â cherddoriaeth, digwyddiadau, pethau i'w gwneud a mwy gan y tîm. Mae Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn un o nifer o brosiectau gan Ddinas Gerdd Caerdydd, a reolir gan Gyngor Caerdydd.