Grymuso’r genhedlaeth jazz nesaf yng Nghymru: CBCDC yn lansio partneriaeth Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

Partneriaeth newydd ac uchelgeisiol yw Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru rhwng Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Jazz Explorers Cymru, i feithrin ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o gerddorion Jazz yng Nghymru.
Bydd y cydweithrediad newydd hwn yn cynnig rhaglen datblygu talent Cymru gyfan, gan sicrhau bod cerddorion jazz ifanc yn gallu cael mynediad at addysg o ansawdd uchel, mentoriaeth arbenigol a chyfleoedd perfformio. Gan ddod â cherddorion jazz sefydledig o bob rhan o Gymru ynghyd, bydd yn adeiladu rhwydwaith cryf, cysylltiedig a fydd yn ysbrydoli, cefnogi a meithrin chwaraewyr jazz y dyfodol.
Darparu addysg jazz o’r radd flaenaf a hygyrch
Mae’r bartneriaeth yn dechrau gydag ysgol jazz tri diwrnod a gynhelir ym mis Ebrill ac sy’n agored i offerynwyr a chantorion 14-22 oed o bob rhan o Gymru ar gyfer gweithdai, dosbarthiadau meistr a rihyrsals. Wedi’u lleoli yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru bydd y mynychwyr yn gweithio gydag addysgwyr jazz o fri yn cynnwys Andrew Bain (Pennaeth CBCDC) Paula Gardiner (Pennaeth Jazz blaenorol CBCDC) a Huw Warren, yn ogystal â thiwtoriaid arbenigol. Fe’u cefnogir gan fyfyrwyr jazz CBCDC fel rhan o’u hyfforddiant cymunedol ac ymgysylltu i ddatblygu eu sgiliau eu hunain fel mentoriaid ac addysgwyr
Cyfnod newydd o jazz yng Nghymru
‘Rydym am adeiladu cymuned lle gall y genhedlaeth nesaf o gerddorion jazz o Gymru ffynnu, gan weithio’n agos gyda’n partneriaid, gwasanaethau cerddoriaeth a hyrwyddwyr jazz ledled Cymru.
Mae’r bartneriaeth newydd a chyffrous hon yn creu cyfle hirddisgwyliedig i ddarparu addysg jazz o’r radd flaenaf a hygyrch, gan roi ffocws ac egni gwirioneddol i fyfyrwyr jazz ifanc Cymru.’
Andrew Bain, Pennaeth Jazz, CBCDC
Yr uchelgais yw y bydd y cynllun peilot hwn yn arwain at raglen o gefnogaeth i gerddorion jazz ifanc, gan gynnwys ysgol haf ac yna taith ledled Cymru, ac ensemble jazz ieuenctid cenedlaethol newydd y flwyddyn nesaf.
‘Gan weithio gyda gweithwyr jazz proffesiynol mwyaf ysbrydoledig y wlad, bydd y bartneriaeth Jazz Ieuenctid Cenedlaethol yn darparu llwyfan cyfeillgar a chydweithredol lle gall cerddorion jazz ifanc gysylltu â’i gilydd a datblygu gyda’i gilydd.
Ein nod yw sicrhau bod pob cerddor ifanc o Ynys Môn i Gasnewydd, o Sir Benfro i Fae Colwyn, yn gallu mynd ar daith gyffrous mewn cerddoriaeth fyrfyfyr gyfoes.
Croeso i gyfnod newydd o jazz yng Nghymru!’Meddai Evan Dawson, Prif Weithredwr, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Cefnogir y rhaglen beilot gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru gan atgyfnerthu’r ymrwymiad a rennir i ddatblygu addysg jazz ledled y wlad.
Ar gyfer ymholiadau, cysylltwch â nyaw@nyaw.org.uk
Bydd y trwmpedwr Tomos Williams ar gael i neud cyfweliadau/cael sgwrs ynglyn â hyn yn ei rôl fel Cadeirydd Jazz Explorers Cymru
Nodiadau i Olygyddion
Nid yw cael profiad jazz yn angenrheidiol ond, er mwyn manteisio i’r eithaf ar y cyfle, yn ddelfrydol dylai myfyrwyr fod wedi cyrraedd Gradd 5 o leiaf, neu safon gyfatebol, ar eu hofferyn.
Ffioedd a bwrsariaethau: Diolch i gefnogaeth gan ein partneriaid a Chyngor Celfyddydau Cymru, mae cymhorthdal ar gael ar gyfer ffioedd cyrsiau er mwyn sicrhau hygyrchedd. Mae costau’n amrywio yn dibynnu ar deithio a llety, ac mae bwrsariaethau ar gael i’r rheini o aelwydydd incwm is.
Bwrsariaethau — Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Rhaid i fyfyrwyr naill ai fod wedi’u geni yng Nghymru a/neu’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd, neu’n astudio’n llawn amser yng Nghymru.
Mae NJAW wedi ymrwymo i wneud y cyfle hwn yn hygyrch i bawb. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, cysylltwch â ni.
Am ragor o wybodaeth Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru — Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru — Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Nod Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yw galluogi’r genhedlaeth nesaf o gerddorion, actorion, dawnswyr a gwneuthurwyr i greu dyfodol creadigol, hyderus a hael i Gymru. Dyma’r elusen sy’n gyfrifol am ensemblau ieuenctid cenedlaethol enwog Cymru ym meysydd theatr, dawns a cherddoriaeth – sy’n cynnwys aelodau o bob sir yng Nghymru.
Mae CCIC wedi ymrwymo i fod yn gynhwysol, gan sicrhau bod pob person ifanc, waeth beth fo’u cefndir economaidd-gymdeithasol, yn cael mynediad at y profiadau trawsnewidiol hyn. Wedi ein cefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru, Cymru Greadigol ac eraill, mae CCIC yn chwarae rhan allweddol yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru.
Ffoto: Kirsten McTernan