Y tu ôl i'r Sîn gyda MURIEL
DARLLENWCH EIN CYFWELIAD GYDA MURIEL
Beth oedd yr artist, yr albwm neu’r gân gyntaf a wnaeth i chi syrthio mewn cariad â cherddoriaeth?
Nid yw’r ateb dwi’n credu sydd gen i yn ateb unrhyw un o’r 3 yma mewn gwirionedd, am nad wyf yn gallu cofio, ond dwi’n cofio fel plentyn, aeth ffrind i’r teulu â fi a fy mrawd i’r cyngerdd gitâr acwstig yma yn St.Sonats. Roedd y dyn yma’n chwarae’r darnau offerynnol emosiynol hyn wnaeth argraff wirioneddol arna i ac fe ysbrydolodd fy agwedd ar chwarae gitâr. Roedd gen i ei EP ar y pryd a’i golli rywbryd dros y blynyddoedd. Dwi wedi ceisio dod o hyd iddo ar-lein ond erioed wedi llwyddo.
Oes unrhyw ffynonellau annisgwyl o ysbrydoliaeth sy’n dylanwadu ar eich gwaith?
Hmm, efallai dim byd y tu allan i’r arfer. Pryd bynnag dwi’n ysgrifennu, mae’n berthnasol i’r foment honno. Profiadau dwi’n eu cael neu’n ceisio gwneud synnwyr ohonyn nhw. Dwi’n ceisio bod yn fwy ymwybodol o eiriau. Yn aml, dwi wedi mynd ato fel syniad cyntaf = syniad gorau ac wedi llaesu dwylo braidd. Dwi’n darllen llawer o farddoniaeth. Pobl sy’n ysgrifennu gyda phob gair yn fwriadol. Ar hyn o bryd, dwi’n darllen Rabindranath Tagore, Galway Kinnel ac Emily Hunt.

Pe gallech ddewis unrhyw 3 artist yn y byd i berfformio mewn Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn y dyfodol, pwy byddech chi’n ei ddewis?
Emily Sprague, Daniel Higgs, a Phil Elverum.
Oes ’na ran o Gaerdydd sy’n teimlo’n arbennig o gysylltiedig â’ch cerddoriaeth neu eich taith bersonol fel artist?
Ie. Pan symudais i Gaerdydd 8 mlynedd yn ôl, ro’n i newydd ddechrau band arall ac yn ceisio chwarae ein sioe gyntaf. Roedd hi’n anodd cael e-bost yn ôl gan unrhyw un, ac yna cawsom gais i chwarae sioe DIY a gafodd ei rhoi ymlaen yn ystafelloedd ymarfer Cathays. Yna, yn ddiweddarach, gyda Muriel, cawson ni ein prif sioe gyntaf yn chwarae yn islawr canolfan siopa capital gyda’r gydweithfa gelf SHIFT. Mae gen i’r parch mwyaf at bobl sy’n gwneud y mathau hyn o bethau, gan nad oes llawer o arian na chefnogaeth yn aml, ond maen nhw’n dal i’w wneud trwy eu hangerdd dros wneud rhywbeth cŵl a da. Mae hyn wedi newid popeth i fi.

Beth yw eich hoff atgof o gig yng Nghaerdydd, naill ai un rydych chi wedi mynd iddo neu un rydych wedi’i berfformio, a beth wnaeth e mor arbennig?
Roedd ein hail brif sioe yng Nghaerdydd, yn y Chapter, yn arbennig iawn. Ro’n i wrth fy modd gyda phroses y sioe honno. Cefais y syniad o wneud ffilm fer gyda fy ffrind a’r artist Jake Rowles ac yna ei sgorio gyda Tom Bromley, sydd wedi dod yn rhan fawr o Muriel. Roedd cydweithio’n agos gyda’r ddau hynny ac yna gweithio ar y perfformiad gyda’r band am yr ychydig fisoedd yn dipyn o waith, ond dwi wedi dysgu fy mod wrth fy modd yn ymdrin â sioeau fel hyn ac yn gwthio ein ffiniau ein hunain fel band. Diolch o galon i’r curadur Kit Edwards am roi’r cyfle hwnnw i ni.
Pa artistiaid Cymreig sy’n gwneud pethau cyffrous ar hyn o bryd ac yn haeddu sylw pobl, yn eich barn chi?
Fy ffrindiau Pam, Xav, a Luke gyda’r Randox Trio
Fy ffrind Luke gyda Cankicker
Ein Rachel ni gydag Ivor Woods
Dyma 3 o nifer y gallwn eu dewis.

Pe gallech chi gydweithio ag unrhyw artist neu gynhyrchydd, pwy byddech chi’n ei ddewis?
Dwi wedi bod ag obsesiwn llwyr gyda’r albwm Soon gan Hana Stretton gafodd ei ryddhau y llynedd. Yn bennaf gyda’r cynhyrchiad. Recordiwyd y cyfan ar dâp ar fferm. Mae mor ddynol ac yn creu’r byd cyfan yma. Byddwn i wrth fy modd yn clywed hi’n siarad am y broses a dysgu rhai pethau.
Fe wnaethoch chi berfformio yn ddiweddar yng Nghadeirlan Llandaf fel rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd; nid yw hynny’n rhywbeth rydych chi’n ei wneud bob dydd—sut brofiad oedd perfformio eich cerddoriaeth mewn lleoliad mor unigryw?
Yn bendant fy hoff le rydyn ni wedi’i chwarae, a dydw i ddim yn hollol siŵr a fydd hynny byth yn newid. Roedd yn syth ar ar ôl gwneud ein taith gyntaf, a dim ond hyn a hyn o rybudd gawson ni, felly ro’n i wedi blino’n barod a heb brosesu’r holl beth yn iawn. Dwi’n cofio gyrru i’r gadeirlan ar y diwrnod fel petai hi’n ddiwrnod arferol, yn mynd i’r gwaith, ac wedyn cerdded mewn a sylweddoli, ac yn sydyn roedd e’n frawychus. Ond roedd y sain yn anhygoel diolch i Oli Miles ar y ddesg. Roedd Alabaster Deplume y gwnaethon ni agor iddo yn anhygoel ac yn garedig iawn, a’r gynulleidfa hefyd. Dwi’n ddiolchgar iawn am y profiad hwnnw.
Zak, chi yw’r prif gyfansoddwr; allwch chi sôn wrthom ni am eich proses ysgrifennu?
Wel, dwi fel arfer i mewn ac allan o donnau ysgrifennu caneuon gartref. Mae gen i ddesg, gliniadur, rhyngwyneb 2 fewnbwn, a logic. Fel arfer bydd gen i gitâr acwstig Neilon, gitâr drydan, a gitâr bas o gwmpas. Wedyn dwi’n rhaglennu drymiau ac yn recordio lleisiau trwy mic, i gyd o fy ystafell fyw. Mae gen i ddilyniant cyffredin iawn o bethau sy’n digwydd wrth ddechrau cân, a dwi’n aml yn ceisio ei dorri ond ddim yn gwneud yn dda iawn yn hynny o beth. Fel arfer, dwi’n eistedd o gwmpas yn chwarae fy ngitâr, yn archwilio siapiau neu diwnio gwahanol, a phan fydd rhywbeth yn swnio’n ddiddorol, dwi’n ei recordio ar fy ffôn. Yn nes ymlaen, dwi’n cofnodi hynny ar fy nghyfrifiadur ac yn dechrau adeiladu haenau o’i gwmpas, fel arfer dim ond adran neu ddwy gyda’r geiriau a’r strwythur eisoes yn datblygu yn fy meddwl cyn iddo ddisgyn i’w le yn naturiol. Neu ddim, a dwi’n cael gwared arno. Byddwn i’n dweud 70% o’r amser yr olaf sy’n digwydd. Dwi’n gwneud llawer o rwtsh. Ond gyda’r hyn sy’n sticio, dwi’n ei rannu gyda phobl eraill yn y band ac mae pethau’n cael eu jamio allan ychydig bach mewn ystafelloedd ymarfer cyn setlo ar yr hyn sydd gyda ni ar y recordiad terfynol. Hyd yn oed yn y camau olaf mae rhai newidiadau ac yna eto wrth berfformio. Does dim byd yn aros yr un peth fel arfer.

PWY YW MURIEL
Dechreuodd Muriel fel prosiect recordio’r cyfansoddwr Zak Thomas yng Nghaerdydd, Cymru.
Dros amser mae cast o ffrindiau a cherddorion wedi ymuno â Zak, sydd wedi ei helpu i droi’r recordiadau o’i ystafell wely yn ganeuon cyflawn a’u perfformio’n fyw, lle maen nhw’n dod yn fyw fel seinweddau moethus, emosiynol sy’n llawn pathos.