Neidio i'r prif gynnwys

CULTVR: CATALYST 360º / Galwad Agored

CATALYST 360º / Galwad Agored

Fel rhan o’n rhaglen ymchwil a chreu yn 2025, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, rydyn ni’n falch iawn i gyhoeddi manylion rhaglen Catalydd 360°:

3 Preswyliad Celfyddydau Trochol: Bydd y preswyliadau hyn yn cefnogi’r gwaith o ymchwilio, datblygu a chyflwyno prosiectau trochol blaengar yn ein cryndo 360°. Mae’r rhaglen yn agored i artistiaid, sefydliadau a mentrau cydweithio â phrofiad ym maes celfyddydau trochol.

6 Sioe Arddangos Realiti Ymestynnol (XR) Byw: Byddwn yn dewis chwe phrosiect a rhoi cyfle iddynt brototeipio a chyflwyno gwaith yn ein cryndo trochol a manteisio’n llawn ar ein hadnoddau blaengar. Yn agored i artistiaid, sefydliadau a mentrau cydweithio o Gymru.

0 Rhwystr i Gymryd Rhan ac Ymgysylltu: Rydyn ni’n falch bod ein cartref yma yn Grangetown ac yn falch ein bod yn cael cyfle i gydweithio â’n cymuned leol drwy weithdai, ymarferion agored, sgyrsiau a theithiau tywys.

Rydyn ni wrthi’n cynllunio Diwrnod Agored ar gyfer Gorffennaf 2025 – byddwn yn cyhoeddi mwy o fanylion yn fuan.

Mae gyda ni ddwy alwad agored benodol ar gyfer rhaglen Catalydd 360º. Nod y ddwy raglen yw cynnig cefnogaeth i artistiaid a mentrau cydweithio mewn gwahanol ffyrdd.

Dyddiad Cau: 10 Chwefror 2025 am 5pm GMT

Manylion YMA