Neidio i'r prif gynnwys

CYFRES NEWYDD SBON O DDIGWYDDIADAU CERDDORIAETH FYW I’W LANSIO YM MHARC EICONIG CAERDYDD

CYFRES NEWYDD SBON O DDIGWYDDIADAU CERDDORIAETH FYW I’W LANSIO YM MHARC EICONIG CAERDYDD

BLACKWEIR LIVE YNG NGHAEAU’R GORED DDU 2025

ARTISTIAID RHYNGWLADOL I’W CYHOEDDI’N FUAN

Bydd mwy o artistiaid cerddoriaeth rhyngwladol mawr yn mynd i Gaerdydd o’r haf nesaf gyda lansiad cyfres newydd sbon o ddigwyddiadau cerddoriaeth fyw awyr agored.

Yn amodol ar drwydded, bydd Blackweir Live yn dechrau gyda phedwar gig a chyda lle ar gyfer hyd at 35,000 o bobl, dyma leoliad maes glas mwyaf y ddinas.

Mae disgwyl i’r man gwyrdd eiconig hwn yng Nghaeau’r Gored Ddu sydd ochr yn ochr ag Afon Taf arddangos rhai o’r artistiaid teithiol rhyngwladol mwyaf gyda’r pedwar gig ar gyfer 2025 yn cael eu cynnal ar draws penwythnosau dethol drwy gydol yr haf.  Bydd manylion o ran dyddiadau a thocynnau yn cael eu cyhoeddi yn fuan.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr artistiaid cofrestrwch yma.

Mae lansio Blackweir Live fel cyrchfan cerddoriaeth fyw newydd ar gyfer y ddinas yn bartneriaeth rhwng DEPOT Live o Gaerdydd (cangen digwyddiadau byw lleoliad cerddoriaeth Caerdydd, DEPOT) a hyrwyddwyr y DU Cuffe and Taylor.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae DEPOT a Cuffe and Taylor wedi cyflwyno bron i 30 o sioeau penigamp enfawr yng Nghastell Caerdydd, ac eleni yn unig croesawon nhw 170,000 o bobl i gyfres o gyngherddau gan berfformwyr gan gynnwys Manic Street Preachers, Catfish and the Bottlemen, Avril Lavigne, Smashing Pumpkins, IDLES a Tom Grennan.

Cyn hyn, dros y saith mlynedd diwethaf mae DEPOT wedi dod â channoedd o berfformwyr i Gaerdydd gan gadarnhau ymhellach apêl y ddinas i artistiaid a chefnogwyr.

Dywedodd Nick Saunders, sylfaenydd DEPOT Live, “Rydym yn hynod gyffrous i lansio’r digwyddiadau awyr agored newydd hyn yng Nghaerdydd.  Mae gan y ddinas dreftadaeth gerddorol gyfoethog, ac rydym wedi ymrwymo i gyfrannu at yr etifeddiaeth honno trwy ddod â phrofiadau cerddoriaeth fyw o’r radd flaenaf i’w chanol.  Gan ategu ein cynlluniau ar gyfer mwy o berfformiadau anhygoel yng Nghastell Caerdydd y flwyddyn nesaf, mae ychwanegu’r digwyddiadau Blackweir Live hyn yn addo haf gwirioneddol gofiadwy o gerddoriaeth yn 2025.”

Dywedodd cyd-sylfaenydd Cuffe and Taylor, Peter Taylor: “Mae Blackweir Live yn gyfle cyffrous iawn i ddod ag artistiaid rhyngwladol i Gaerdydd.

“Mae gennym berthynas wych gyda DEPOT Live a phobl Caerdydd ac edrychwn ymlaen at wella hynny ymhellach yn y blynyddoedd i ddod wrth i ni geisio dod â’r gorau ym myd cerddoriaeth i berfformio yn y ddinas brydferth hon.”

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau:

“Mae cyhoeddi’r sioeau newydd hyn yng Nghaeau’r Gored Ddu, yn syth ar ôl Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd gyntaf erioed, yn dangos pa mor ganolog yw cerddoriaeth fyw i ddyfodol Caerdydd, a gyda rheswm da.  Mae gwerth diwylliannol cerddoriaeth yn ddiamheuol, ond mae hefyd yn cynhyrchu oddeutu £100 miliwn y flwyddyn i’r economi ac mae’n chwarae rhan sylweddol wrth wneud Caerdydd y ddinas fywiog, greadigol yr ydym i gyd yn ei hadnabod a’i charu.”

I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am Blackweir Live, cofrestrwch i’r rhestr bost yn DOLEN.