Cynllun ariannu newydd i gefnogi lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad yng Nghaerdydd
19 Rhagfyr 2024
Cynllun ariannu newydd i gefnogi lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad yng Nghaerdydd
Mae cynllun ‘peilot’ newydd wedi ei gyhoeddi gan Gyngor Caerdydd sydd â’r nod o gefnogi cerddoriaeth ar lawr gwlad yng Nghaerdydd drwy annog hyrwyddwyr i gymryd mwy o risgiau a chynyddu’r cyflenwad o artistiaid newydd sy’n dod i’r amlwg sy’n chwarae yn lleoliadau annibynnol y ddinas.
Mae’r cynllun ALLBWN / OUTPUT – sy’n gwarantu hyrwyddwyr sy’n sicrhau cefnogaeth drwy’r cynllun yn erbyn colledion ariannol o hyd at £1000 – yn golygu os na fydd gwerthiant tocynnau ar gyfer gig yn cyrraedd y lefel sy’n ofynnol i dalu costau fel llogi lleoliad, PA a ffioedd bandiau, bydd y costau hyn yn cael eu talu. Pan fydd digwyddiadau’n llwyddiannus, bydd unrhyw arian a ddyrannwyd sydd heb ei wario yn cael ei ddefnyddio i gefnogi gigs pellach.
Nod y cynllun yw mynd i’r afael ag un o’r problemau allweddol ledled y DU a godwyd yn ddiweddar gan y sector cerddoriaeth drwy Fwrdd Cerddoriaeth Caerdydd – sef y gostyngiad sylweddol yn nifer yr hyrwyddwyr sy’n gweithio yng Nghaerdydd ers y pandemig, a’r effaith a gaiff hynny ar iechyd cyffredinol ecosystem gerddorol y ddinas.
Mae’r cyhoeddiad am gynllun peilot ALLBWN / OUTPUT yn dilyn lansiad Cronfa Lleoliadau Llawr Gwlad newydd Cyngor Caerdydd yn gynharach yn y flwyddyn sy’n cynnig grantiau o hyd at £10,000 i leoliadau annibynnol y ddinas.
Dwedodd Cadeirydd Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd ac Arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas: “Rydym yn benderfynol o wneud cymaint ag y gallwn i helpu i ddarparu sîn gerddoriaeth ffyniannus, amrywiol a chyffrous yng Nghaerdydd gydol y flwyddyn.
“Er mwyn i hynny ddigwydd, mae angen i gynulleidfaoedd barhau i gefnogi lleoliadau annibynnol trwy fynd allan a gweld cerddoriaeth fyw, ond mae angen hyrwyddwyr brwdfrydig sy’n cymryd risg a chyflenwad cyson o artistiaid newydd i chwarae yn lleoliadau’r ddinas.
“Er nad oes gennym y pŵer na’r cyllid i ddatrys yr holl heriau, sy’n wynebu’r sector cerddoriaeth ledled y DU, mae lliniaru rhywfaint o’r risg ariannol o gynnal gig yn un cam a allai gael effaith gadarnhaol sylweddol.”
Mae’r cynllun ALLBWN / OUTPUT ar gael i hyrwyddwyr newydd a hyrwyddwyr sydd â hanes profedig, yn ogystal â bandiau lleol sydd am gynnal gigs hunan-hyrwyddo.
I fod yn gymwys i wneud cais am gyllid, bydd angen i’r gig gael ei chynnal mewn lleoliad cerddoriaeth llawr gwlad yng Nghaerdydd, rhaid talu’r holl gerddorion, rhaid i fwyafrif y deunydd a gaiff ei berfformio fod yn wreiddiol, a rhaid i gyfanswm y risg a gaiff ei warantu fod yn llai na £1000. Rhaid i’r pwynt adennill costau hefyd fod o dan 80% o’r gwerthiant tocynnau.
Mae ceisiadau am gymorth drwy’r cynllun peilot ALLBWN / OUTPUT ar agor tan 31 Ionawr 2025. Rhaid cynnal gigs cyn 2 Mawrth 2025.
Mae’r cynllun peilot yn cael ei ariannu drwy grant Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Mae disgwyl i holl grantiau’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ddod i ben ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon, ond mae’r Cyngor wrthi’n chwilio am gyfleoedd ariannu i alluogi parhau â’r cynllun peilot, os yw’n profi’n llwyddiannus.