Atsain Cylch 6 // Cyfle ariannu
Mae Cronfa Gerdd Anthem Cymru yn cynnig cyllid i sefydliadau i redeg prosiectau creu cerddoriaeth neu greu cyfleoedd dilyniant gyrfa gerddoriaeth yng Nghymru.
Atsain Cylch 6
I lawer o bobl ifanc yng Nghymru, gall rhwystrau economaidd a chymdeithasol eu hatal rhag cael mynediad at rym trawsnewidiol cerddoriaeth ac elwa ohono. Yn Anthem, credwn ym mhotensial cerddoriaeth i sbarduno twf, hunanfynegiant, a lles i bob bywyd ifanc, waeth beth fo’u hamgylchiadau.
Mae cylch nesaf Cronfa Atsain yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r rhwystrau hyn yn uniongyrchol. Gyda chymorth gan Youth Music, drwy gymorth Loteri Cod Post y Bobl, bydd y cylch ariannu newydd hwn yn galluogi sefydliadau i greu prosiectau sy’n cael gwared ar rwystrau fel caledi ariannol, diffyg modelau rôl, a diffyg rhwydweithiau yn y diwydiant.