Y tu ôl i'r Sîn gyda MINAS
Fel rhan o’n cyfres ffotograffau wedi’i chomisiynu gan Ren Faulkner, sy’n cynnwys artistiaid cyffrous naill ai o Gaerdydd neu sydd â chysylltiad â Chaerdydd, rydym yn sgwrsio â’r cynhyrchydd, y lleisydd, y pianydd a’r awdur geiriau, MINAS.
DARLLENWCH EIN CYFWELIAD GYDA MINAS
Beth oedd yr artist, yr albwm neu’r gân gyntaf a wnaeth i chi syrthio mewn cariad â cherddoriaeth?
The Fat of the Land gan The Prodigy.
Oes unrhyw ffynonellau annisgwyl o ysbrydoliaeth sy’n dylanwadu ar eich gwaith?
Byddwn i’n dychmygu na fyddai pobl, o’r hyn maen nhw’n ei wybod am “Minas” fel y mae ar hyn o bryd, yn disgwyl bod llawer o’m dylanwadau yn dod o Neo Soul ac RnB gydag artistiaid ac awduron fel Robert Glasper, Jill Scott, Geno Young, Solange, SZA, Kelela ac Alfa Mist.

Pe gallech ddewis unrhyw 3 artist yn y byd i berfformio mewn Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn y dyfodol, pwy byddech chi’n ei ddewis?
Deftones, Kelela a Shady Nasty.
Oes ’na ran o Gaerdydd sy’n teimlo’n arbennig o gysylltiedig â’ch cerddoriaeth neu eich taith bersonol fel artist?
Broadway/Clifton mwy na thebyg. Roedd lot o bethau gwyllt yn mynd ymlaen pan oeddwn i’n byw yn yr ardal ’na a dwi’n dal i geisio gwneud synnwyr ohonynt nawr wrth ysgrifennu caneuon.

Beth yw eich hoff atgof o gig yng Nghaerdydd, naill ai un rydych chi wedi mynd iddo neu un rydych wedi’i berfformio, a beth wnaeth e mor arbennig?
Mae’n dal ein prif sioe gyntaf yn Porters gyda SHLUG a Larch. Roedd awyrgylch cyfan y noson ar lefel uchel, roedden ni’n cymryd llawer o nerth o’r nifer a ddaeth i’n gweld ni nad oedden ni’n ei ddisgwyl o gwbl.
Pa artistiaid Cymreig sy’n gwneud pethau cyffrous ar hyn o bryd ac yn haeddu sylw pobl, yn eich barn chi?
Spithood, SHLUG, Sorry Stacy, teethin a Noah Bouchard ac enwi ond rhai.

Pe gallech chi gydweithio ag unrhyw artist neu gynhyrchydd, pwy byddech chi’n ei ddewis?
Blackhaine a Rainy Miller.
Rydych chi wedi gweithio gyda llawer o artistiaid o Gymru, pob un â’i arddull unigryw ei hun. Sut rydych chi’n llwyddo i greu sain sydd yn ogystal ag ategu eu gweledigaeth unigol ond sydd hefyd yn cadw eich nodwedd unigryw fel cynhyrchydd?
Dwi byth yn bwriadu cadw nodwedd unigryw. Os unrhyw beth, mae’r ffaith bod pobl weithiau’n gallu adnabod “cynhyrchiad Minas” o’i glywed yn unig yn gwneud i fi deimlo fy mod i wedi methu’r genhadaeth. Pan dwi’n gwrando ar fath penodol o gerddoriaeth gan rywun arall, dwi’n teimlo fy hun yn newid, bron fel pe bawn i yn y gân neu rywbeth. Dwi wedi treulio blynyddoedd yn ymgolli mewn un genre, yn dysgu amdano ac yn gweithio allan sut i wneud e, wedyn yn clywed rhywbeth arall ac yn ymgolli yn hwnna. Dyw gallu crefftio rhywbeth ar gyfer pob person dwi’n gweithio gyda nhw sy’n cyd-fynd â’u gweledigaeth ddim yn rhywbeth dwi’n ei gymryd yn ganiataol. Mae’n debyg mai dyna’r cyflawniad dwi fwyaf balch ohono sy’n gwneud yr holl chwys, gwaed a dagrau yn werth chweil. Yn y bôn, mae cerddoriaeth bob amser wedi gwneud mwy o synnwyr i mi na phobl, felly wrth gysylltu â rhywun trwy’r cyfrwng hwnnw dwi’n ei chael hi’n haws meithrin perthynas â rhywun a’u deall fel person.
Mae eich cerddoriaeth yn myfyrio llawer ar gymdeithas Prydain. Beth oedd ymateb y gynulleidfa pan oeddech chi’n perfformio’r caneuon hynny ar draws gwahanol ddinasoedd yn y DU wrth fynd ar daith gyda BENEFITS?
Wel, roedd gallu perfformio’r rhain i dorf mewn lleoliadau nad oedden ni erioed wedi chwarae ynddynt, torf oedd yn barod i ddod ynghyd dan ddicter cyffredin, yn beth hyfryd. Roedd hefyd yn rhoi sicrwydd i ni bod gan yr hyn roedden ni’n ei wneud ryw bwrpas y tu hwnt i gerddoriaeth. Dwi ond yn gallu gobeithio y cawn ni ei wneud eto. Mae Kingsley wedi dod yn rhywun y byddwn i’n ei alw’n ffrind ers hynny, sy’n grêt.
