Neidio i'r prif gynnwys

Rhaglen gyllid a chymorth newydd sbon ar gyfer artistiaid yw Celfyddydau Ymdrochol

Rhaglen gyllid a chymorth newydd sbon ar gyfer artistiaid yng ngwledydd Prydain yw Celfyddydau Ymdrochol, sydd wedi’i chreu i’ch helpu i ddatblygu’ch arfer drwy dechnolegau ymdrochol.

Mae amser ar ôl i wneud cais nawr, ac mae ganddon ni dair ffrwd o gefnogaeth ar gael:

Archwilio – Os oes gennych chi ymarfer creadigol ond dim llawer o brofiad gyda thechnoleg neu gelfyddydau ymdrochol, gallech chi gael £5,000, cymorth ac arweiniad i archwilio a sbarduno gwaith meddwl newydd.

Arbrofi – Os ydych chi’n barod i ddod â’ch syniadau’n fyw a’u profi gyda chynulleidfa, gallech archwilio gweithdai wedi’u teilwra a chael £20,000.

Estyn – Os ydych chi eisoes yn gweithio ar brosiect celfyddydau ymdrochol, gallech gael £50,000 yn ogystal â mentora pwrpasol a chymorth arbenigol i ehangu eich gwaith a’i gyflwyno i gynulleidfa.

Efallai bod y cloc yn tician, ond rydyn ni wedi cynllunio’r broses ymgeisio i fod mor fyr ac mor hawdd i’w defnyddio â phosib. Gallwch lenwi’r cwestiynau drwy adael nodyn llais, recordio fideo, neu gyflwyno ymatebion ysgrifenedig – beth bynnag sy’n gweithio orau i chi er mwyn rhannu’ch gwaith a’ch syniadau gyda ni.

MANYLION YMA