Orbital a Leftfield yn agor Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd
Dydd Mer, 25 Medi 2024
Yn agor Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd, yr ŵyl sy’n gwthio ffiniau, ddydd Gwener yma mae dwy act nad yw eu huchelgeisiau a’u hegni wedi pylu dros y degawdau. Daeth un ohonynt i enwogrwydd gan ddod ag eicon pync i’r genhedlaeth rêf, trawsnewid y ffordd y clywyd cerddoriaeth ddawns yn y sinema ac ar y teledu, ac yn cynnwys un o brif berfformwyr indie mwyaf ein hoes ar gyfer eu LP diweddar.
Gwnaeth y llall gerddoriaeth techno o Brydain yn ganolog mewn gwyliau a’r haf hwn roedd ganddo’r grym i ddod ag actores a enillodd Oscar, oedd yn aelod o’r grŵp Spice Girls, i berfformio ar y llwyfan gyda nhw. Anghofiwch fandiau hiraethus y 1990au – gwnaeth Leftfield ac Orbital bwyntio at y dyfodol yn ôl bryd hynny, ac maen nhw’n dal i wneud nawr.
“Ac rwy’n gyffrous iawn am ddod ag Orbital i Gaerdydd gyda ni oherwydd bod y gig olaf a gawsom yno yn gwbl b***di anhygoel,” meddai Neil Barnes, prif sylfaenydd Leftfield (chwaraeodd ei fand ddiwethaf yn y Neuadd Fawr yn 2023: “roedd y gynulleidfa’n rhyfeddol”). Mae Barnes yn credu bod gan y ddinas “frwdfrydedd ac egni mawr”, a bydd mwynhau hynny gydag Orbital, sydd wedi bod o gwmpas, fel nhw, ers i gerddoriaeth House o Brydain ddod yn boblogaidd, yn arbennig. “Rwyf wedi eu hadnabod ers blynyddoedd, maen nhw’n hyfryd. Mae’n wallgof i feddwl nad ydym wedi gwneud hyn gyda’n gilydd o’r blaen.”
Mae straeon y ddwy act yn llawn ysbryd dewr a phenderfyniad. Ffurfiwyd Leftfield yn Llundain ym 1989, ar ôl i Barnes ddweud, dan chwerthin, ei fod yn “gweithio ei ffordd i fyny i’r diwydiant” – o fod yn lanhawr yn siop recordiau boblogaidd, Honest Jon’s, yn Llundain, i ennill digon o arian y tu ôl i’r cownter i gael benthyciad gan y banc ar gyfer samplwr. Daeth offer yn rhatach ac yn fwy hygyrch, a rhoddodd hyn rwydd hynt i’w greadigrwydd ef a’i bartner Leftfield gwreiddiol, Paul Daley. Gwnaethpwyd eu sengl gyntaf, Not Forgotten, yn 1990, ar ddilyniannwr MIDI syml, ond gwnaeth ei hegni a’i churiadau yn drac Prydeinig hynod ddylanwadol.
“Roedd yn gyntefig ond yn gyffrous,” meddai Barnes. “Roedd popeth yn teimlo’n newydd. Roeddem wedi ein cyffroi gyda bod mewn rheolaeth, bod neb yn dweud wrthym beth i’w wneud, ac roeddem am i’n cerddoriaeth fod yn llwyddiannus, ond doedd gennym ni ddim, dim arian a neb yn ein cefnogi. Ni greodd y cyfan. Mae’r pethau gorau yn gweithio felly.”
Roedd Orbital yn torri cwys debyg yn Sevenoaks, Caint. Roedd Paul Hartnoll wedi penderfynu ei fod am greu cerddoriaeth am “ddeg neu un ar ddeg”, ar ôl clywed fersiwn The Beat o Tears Of A Clown ar y siartiau. “Roeddwn i yn y bath pan glywais i honno,” meddai. “Es i mewn i’r bath yna yn dal i feddwl am deganau Action Men a milwyr teganau Airfix, ond pan ddes i allan, roeddwn i’n meddwl, oes angen i mi gael gitâr neu sacsoffon? Beth ddylwn i ei wneud? Roedd fel petawn i wedi cael fy ngalw.”
Ddegawd yn ddiweddarach, roedd Orbital, ei fand gyda’i frawd iau Phil, yn yr 20 uchaf eu hunain, ac ar Top of the Pops. Yn 1989, cyrhaeddodd eu sengl gyntaf, y clasur clwb poblogaidd Chime, rif 17, cân a recordiwyd yn wreiddiol yn swyddfa gartref eu tad mewn cwpwrdd o dan y grisiau. Ar ei ochr b roedd Deeper, a ddefnyddiodd samplau o lais gwrywaidd o record ymlacio; gofynnon nhw i Tilda Swinton i’w hail-wneud ar gyfer agor eu perfformiad yn Glastonbury ym mis Mehefin. “Ac o’n i’n meddwl, o Dduw, bydd hi’n rhy brysur i’w wneud, ond yna dywedodd ei bod hi’n caru’r syniad.” Gofynnodd a allai ei pherfformio’n fyw. Daeth yn un o ddau berfformiad gwadd i Orbital y noson honno a aeth yn feirol.
Roedd y llall gyda Mel C, a oedd yn gwisgo tortshis pen tebyg i’r rheini y mae’r brodyr wedi eu gwneud yn nod masnach iddyn nhw’u hunain, gan wneud fersiwn House caled o Wannabe a ail-enwodd y brodyr yn “Spicy“. Y canlyniad oedd gwrthdaro o wahanol fydoedd, ond gweithiodd yn wych. “Yr hyn dwi wedi sylweddoli dros y blynyddoedd yw fy mod i’n abswrdydd,” meddai Hartnoll, gan wenu. “Rwy’n caru Monty Python, Douglas Adams, a’r mwyaf absẃrd yw rhywbeth, y mwyaf swreal, y hapusaf ydw i.”
Mae’n un o lawer o gydweithrediadau maen nhw wedi’u gwneud dros y blynyddoedd, yn llawn hyfdra a ffraethineb. Maent wedi perfformio eu haddasiad o thema Dr Who gyda’r Arglwydd Amser ar y pryd, Mat Smith, wedi adeiladu samplau Belinda Carlisle a Bon Jovi yn eu caneuon, ac yn fwy diweddar wedi gweithio gyda Jason Williamson o Sleaford Mods (ar Dirty Rat) a Medieval Baebes (ar Ringa Ringa: The Old Pandemic Folk Song) ar gyfer eu halbwm, Optical Delusion, yn 2023.
Yn yr un modd, gwnaeth artist gwadd arall, John Lydon o’r Sex Pistols, ychwanegu’n fawr at effaith Leftfield yng nghanol y 1990au- er bod yn rhaid i Neil, oedd yn ei adnabod trwy ffrind, ei “herwgipio” ef, meddai fe, i recordio Open Up ym 1995. “Ceisiodd osgoi ei wneud, oherwydd, mae’n nerfus, chi’n gwybod, ond diolch byth fe ddaeth ac fe wnaeth!” Helpodd y canwr Reggae, Earl Sixteen a Toni Halliday o’r Curve albwm cyntaf Leftfield, Leftism, i ddod yn llwyddiant beirniadol a masnachol. Gwerthodd ei albwm dilynol, Rhythm and Stealth o 1999, a aeth i rif un, 220,000 o gopïau yn y pen draw, ac roedd yn cynnwys Phat Planet, y trac a oedd yn drac sain i’r hysbyseb Guinness, Surfer, yn cynnwys dyfyniadau gan Moby Dick a cheffylau yn marchogaeth o’r tonnau. (Pleidleisiwyd dros Surfer fel yr hysbyseb orau erioed mewn llawer o arolygon barn ers 2000, wedi’i gyrru gan rythmau trwm, gyriannol digamsyniol Leftfield.)
Roedd Leftfield ac Orbital yn arloeswyr ym maes cerddoriaeth House a Techno o Brydain o ddechrau eu gyrfaoedd, ac maent yn parhau i fod, gan anelu’n uchel gyda’u syniadau a’u perfformiadau wrth iddynt greu albymau a theithio. Gwnaed albwm 2023 Leftfield, This Is What We Do, ar ôl i Neil wella o ganser, ac mae’n cynnwys Grian Chatten o Fontaines DC, sydd bellach yn artist hynod boblogaidd ac yn brif berfformiwr mewn gwyliau ei hun, ar Full Way Round. “Cafodd gymaint o argraff ar Adam a fi [Wren, a ymunodd yn 2010] wrth adeiladu’r trac yna. Roedd e’n wych.”
Y dyddiau hyn, mae Paul wrth ei fodd gyda’r “hwyl” o weithio gyda phobl newydd hefyd, ond mae hefyd wrth ei fodd â gwaith byrfyfyr byw, y mae Orbital bob amser wedi rhagori arno. “Rydych chi’n cael cyfle i amrywio pethau bob nos, eu chwarae mewn trefniannau newydd, jamio gyda’r strwythurau, defnyddio syntheseisyddion i ail-drefnu’r synau.” Mae’n dweud i ddychmygu rasio – mae wrth ei fodd yn gosod rhannau o drac wedi’u trefnu ar ddechrau set, gan benderfynu pa un sy’n mynd ble ar ba adeg a phryd mae’n gorffen, yn seiliedig ar ei ryngweithiadau ef a Phil gyda’r gynulleidfa. “Oherwydd cyn gynted ag y byddwch chi’n sefyll ar lwyfan gyda chwpl o filoedd o bobl o’ch blaen, mae popeth yn newid.”
Ac felly bydd hyn yn digwydd yn Arena Utilita nos Wener yma. Mae Paul wrth ei fodd yn cwrdd a siarad â gwahanol bobl pan fydd ar daith, gan feddwl am ffyrdd newydd o greu cerddoriaeth. Mae cyngor Neil i’r rheini sydd am ddilyn ôl troed Leftfield yn swnio’n wahanol, ond nid yw’n wahanol pan rydych chi’n troi’r sain i fyny. “Peidiwch â gwrando ar unrhyw un.” Mae’n chwerthin. “Wrth ddweud hynny, rwy’n golygu, peidiwch â gwrando ar unrhyw un sy’n dweud wrthych fod yn rhaid gwneud rhywbeth mewn ffordd benodol. Gwnewch bethau yn eich ffordd eich hun. Gwnewch bopeth yn eich ffordd eich hun. A byddwch yn hapus – mae torri’r rheolau’n beth da.”