Cerddoriaeth Fetamorffig: Gwen Siôn yn trafod Cloddio Llechi ar gyfer Sain
Dydd Mer, 25 Medi 2024
Gwen Siôn yn siarad â Jude Rogers am sut y daeth ei chariad at rêfs dubstep mewn twneli yn arfer creadigol o droi llechi gogledd-orllewin Cymru yn gerddoriaeth, gan gyfuno recordiadau maes â chanu corawl, a sut mae celf tirwedd yn wleidyddol.
Tref lechi yng ngogledd-orllewin Cymru yw Bethesda, gyda 5,000 o bobl yn byw ynddi, sy’n barod am ramantu – neu mae hynny cyn i chi dorri drwy ei haenau. Mae’n fan syfrdanol rhwng y mynyddoedd, yr afonydd, y llynnoedd a’r coetiroedd, heb fod ymhell o Fôr gwyllt Iwerddon. Rhwng 1900 a 1903 dyma leoliad y Streic Fawr, un o’r anghydfodau diwydiannol hwyaf yn hanes Prydain, a ddigwyddodd mewn ymateb i ecsbloetio, amodau gwaith peryglus a chyflogau bach iawn mewn chwareli llechi lleol.
Dyma hefyd lle magwyd Gwen Siôn gan ei mam, a oedd yn rhiant sengl, yn y 2000au a oedd wrth ei bodd â cherddoriaeth, gan chwarae cerddoriaeth jyngl a drwm a bas gartref oherwydd nad oedd hi’n gallu mynd i rêfio. Roedd hwn yn gariad y byddai ei merch yn ei etifeddu, gan fynd i bartïon dubstep cynnar mewn twneli segur yn ei harddegau wrth iddi ddechrau archwilio’r byd y tu allan i’w drws, yn sonig yn ogystal ag yn gorfforol. “Mae natur a’r amgylchedd yn gymaint rhan o’m gwaith i, oherwydd allwch chi ddim dianc ohono mewn lle fel hyn,” esbonia Gwen dros Zoom.
Bydd ei gwaith newydd, Llwch y Llechi, yn cael ei berfformio am y tro cyntaf fis nesaf: prosiect clyweledol byw sy’n archwilio cysylltiadau rhwng cerddoriaeth, tirwedd, traddodiad a defod, wedi’i greu gan ddeg cerddor o Gerddorfa Genedlaethol Cymru a Chôr y Penrhyn [côr y chwarelwyr lleol]. Mae’n cael ei lwyfannu gan Llais, gŵyl pum niwrnod Canolfan Mileniwm Cymru sy’n archwilio’r llais, sy’n rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd ehangach, sy’n para mis, ac sy’n dathlu arloesedd mewn sain ar draws arddulliau trwy gigs, celf a gosodweithiau ymdrochol ledled y ddinas gyfan.
Mae gwaith Siôn yn cyfuno electroneg sy’n trawsnewid bioddata o’r dirwedd yn nodiant a gweadau cerddorol, ac offerynnau y mae hi wedi’u gwneud ei hun o ddeunyddiau crai – ar gyfer y prosiect hwn mae’n defnyddio telynau o lechi a feiolinau o foncyffion y gellir eu plycio, tynnu bwa ar hyd eu tannau neu eu defnyddio fel offerynnau taro. Mae’r lleoedd y mae Siôn yn gwneud celf ynddynt yn atseinio trwy eu deunyddiau eu hunain, effaith y mae’n ei mwyhau â microffonau cyswllt ac effeithiau.
Wnaeth Siôn ddim cychwyn fel cerddor, serch hynny, “er bod gan fy mam biano gartref y gwnes i chwarae o gwmpas arno fo”. Fel plentyn, byddai’n chwarae gyda pheiriannau tâp, recordio ei llais am oriau, gwneud recordiadau maes dechreuol, ymarfer y byddai’n ymchwilio iddo yn ddyfnach wrth iddi dyfu’n hŷn. Yn ei hugeiniau cynnar, gwnaeth gerddoriaeth electronig fel rhan o grŵp cyfunol lleol y tu allan i’w gwaith bob dydd yn gweithio i elusen amgylcheddol. “Roeddwn hefyd wrth fy modd â cherflunwaith a chelf a gosodweithiau sain, ond doeddwn i ddim yn gwybod sut i’w rhoi nhw i gyd at ei gilydd.”
Yna, yn 25 oed, rhoddodd y gorau i’w swydd, gwnaeth gais i fynd i goleg Central Saint Martins i ddilyn gradd mewn celf gain, a mynd ati i astudio’r llwybr XD (mae 2D yn ymwneud â darlunio neu baentio neu ffotograffiaeth, gallai 3D fod yn ddelwedd neu’n berfformiad symudol, XD yw “pan fyddwch chi’n gweithio ar draws disgyblaethau – pan nad ydych chi’n ffitio i mewn!”). Ond yna daeth y pandemig. Ar y dechrau, roedd hi gartref gyda’i mam a difyrrodd ei hun ym myd natur yn y gwanwyn tawel rhyfedd, heulog hwnnw. Sylwodd ar sut roedd diffyg ymyriadau dynol yn y dirwedd yn gwneud lle i natur ffynnu.
Yn y cyfnodau clo diweddarach, roedd hi’n sownd yn byw yn ei llety rhad yn Watford ac yn cysgodi, heb allu mynd i’r brifysgol, felly dechreuodd adeiladu offerynnau bach o bethau oedd ganddi wrth law. Mae’r Shadowboard, er enghraifft, yn syntheseisydd analog polyffonig 12 nodyn wedi’i wneud o hen duniau bwyd, torbrennau, blychau cludfwyd a gwrthyddion sy’n dibynnu ar olau, a gellir ei chwarae heb ei gyffwrdd o gwbl.
Treuliodd Siôn amser hefyd mewn coetiroedd lleol a oedd i’w dinistrio’n fuan ar gyfer prosiect HS2, yn gwneud recordiadau maes ac yn casglu deunydd i weithio gydag ef. “Roedd yr amser yna yn dipyn o sbardun i fi,” esbonia; “Dwi wrth fy modd gyda bod yn gyffyrddol, gwneud pethau, felly roedd defnyddio’r elfen o adeiladu offerynnau fel haen arall o ymgorffori lle neu dirwedd benodol yn y sain yn gwneud cymaint o synnwyr.” Mae hi hefyd wrth ei bodd â’r ffordd y gall elfen gerfluniol offerynnau sydd wedi’u gwneud â llaw, gyfathrebu ymdeimlad o le yn weledol. “Mae’n ymwneud â chyfieithu’r byd naturiol mewn gwahanol ffyrdd i gael effaith ar bobl.”
Nod darn gan Siôn a ddeilliodd o’r cyfnod hwnnw, sef HS2 Ghostlands, oedd dangos sut y gallai cerddoriaeth fod yn fan cychwyn ar gyfer sgwrs ynghylch yr hyn oedd yn digwydd i’r amgylchedd hwnnw. Gwnaeth “rhyw fath o archif sain o’r coetiroedd cyn iddynt gael eu dinistrio”, gan greu offerynnau o ganghennau a oedd wedi cwympo. Sylweddolodd y gallai adeiladu ymgyrchedd yn ei gwaith a bod yn wleidyddol – dim ond mater o amser oedd hi cyn iddi fynd â’r agwedd honno at y lle yr oedd hi’n ei alw’n gartref. Treuliodd Siôn amser yn ymchwilio i hanes gwleidyddol-gymdeithasol chwareli Bethesda, a’r tensiwn parhaus rhwng yr hyn y mae’n ei ddiffinio fel y naturiol a’r diwydiannol. “Mewn cymunedau chwarela, mae’r chwareli’n cynrychioli llawer o bethau – marwolaeth, tlodi, streiciau, argyfyngau cau allan, lefelau uchel iawn o lygredd aer a chlefydau anadlol. Mae Bethesda yn llythrennol yng nghysgod y chwarel sydd wedi’i cherfio’n llythrennol allan o’r mynydd. Gallwch chi deimlo ei phwysau a phopeth mae’n ei gynrychioli, ond mae cynifer o bobl yn dal i deimlo bod llechi yn arbennig, fel eu bod yn rhan o’ch hunaniaeth.”
Pan mae hi’n gweithio gyda llechi, mae’n rhaid iddi eu gwlychu fel nad yw’r offer yn gorboethi, “ac mae rhywbeth am yr arogl sy’n fy atgoffa o ddiwrnodau glawog – mae mor atgofus o gartref.” Mae Côr y Penrhyn, côr a sefydlwyd o gwmpas y gweithle yn y 19eg ganrif, hefyd yn chwarae rhan ganolog yn ei darn. Ar adegau, maen nhw’n canu geiriau go iawn o waith ymchwil Siôn, ac ar adegau eraill, mae eu lleisiau’n cynnig gweadau a synau.
Rydym yn sôn am bruddglwyf amrwd, dewr dynion o Gymru yn canu gyda’i gilydd, a sut mae canu’n cynorthwyo cydlyniant cymdeithasol a lles corfforol mewn diwylliant a effeithiwyd gan ôl-effeithiau diwydiannau sydd wedi dod i ben. “Mae canu’n beth sy’n meithrin perthynas cryf iawn, nid yn unig drwy ei effaith emosiynol, ond mae’n debyg ei fod yn cael effaith gadarnhaol hefyd ar y defnydd o’r anadl a’r defnydd o’r corff.” Mae Siôn yn defnyddio eu lleisiau mewn “ffyrdd eithaf ysbrydol”, y dynion weithiau’n canu geiriau gwahanol ar ben ei gilydd, gan gyfuno’r synau hyn gydag eraill gan berfformwyr Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yn ogystal â synau amgylcheddol a synau’r tywydd.
Mae’r prosiect wedi bod yn gromlin ddysgu wallgof, meddai – dyw hi ddim wedi ei hyfforddi’n glasurol ond mae hi wedi gorfod nodiannu popeth ar erwydd. “Mae wedi bod werth ei wneud. Holl bwynt y prosiect hwn i mi oedd ceisio dod â thri byd cerddorol gwahanol, ar wahân, ynghyd a gweld beth sy’n digwydd.” Rydym yn sgwrsio am sut mae’r prosiect yn cyfuno gwahanol ddisgwyliadau dosbarthiadau: y côr yn cynrychioli gweithwyr a chymdeithas dyheadol y capel; y gerddorfa yn ddiwylliant mwy prin; recordiadau maes ac electroneg yn ddisgleirdeb yr oriel gelf, y clwb neu’r llawr ddawnsio.
Mae Siôn yn meddwl am bob sŵn fel yr haenau, meddai, heb fod un yn blaenoriaethu dros y llall. “Dim ond arbrawf yw hwn ar ddiwedd y dydd. Roeddwn i eisiau gweld beth fyddai’n digwydd pan fyddech chi’n dod â bydoedd cerddorol gwahanol iawn i mewn a cheisio creu rhyw fath o asiad oherwydd y gofodau rhwng pethau, dyna lle dwi’n meddwl bod pethau cyffrous yn digwydd.”
Ar ôl Llwch y Llechi, bydd Siôn yn gweithio ar Atlantis 2050, prosiect sy’n cyfuno sain, delweddau symudol a data amgylcheddol ar lefelau cynyddol y môr yn rhai o’r ardaloedd yr effeithir arnynt fwyaf yn y DU sydd mewn perygl o fod dan ddŵr erbyn 2050, ac Earth and Sky, comisiwn gan Opera North i greu tro sain i fyny ar weundiroedd gwlad Brontë ar gyfer Dinas Diwylliant Bradford 2025, gan ddefnyddio technoleg canfod lleoliad fel bod synau yn cael eu sbarduno mewn clustffonau.
Ond am y tro, mae hi gartref, gyda sain a cherddoriaeth o’i chwmpas, yn y manylion mwyaf gronynnog. “Yng Nghymru, mae sain yn rhan mor annatod o ddiwylliant Cymru, rhywbeth y gallech chi gloddio i mewn iddo, drwy haenau a haenau a haenau,” meddai. Mae ei chyfansoddiadau ystyriol, uchelgeisiol, yn awgrymu edrych ar ochr mynydd a echdynnwyd, gweld y strata, a theimlo effaith bodau dynol ar y dirwedd drwy’r canrifoedd, gan atseinio heddiw, ac am byth.