Neidio i'r prif gynnwys

Pino Palladino (a ffrindiau) i chwarae yng Ngŵyl Dinas Gerdd Caerdydd

Medi 19, 2024

Mae Pino Palladino, un o chwaraewyr bas enwocaf y byd, wedi perfformio ar dros 1,000 o recordiadau gan artistiaid yn cynnwys Adele, The Who, D’Angelo, Ed Sheeran, Nine Inch Nails, Eric Clapton, Gary Numan, B.B. King, Bryan Ferry ac eraill.

Nawr, bydd y cyfansoddwr, y cynhyrchydd a’r bas sydd wedi ennill yng Ngwobrau’r Grammy yn camu i’r llwyfan ar gyfer ei sioe gyntaf yn ei dref enedigol o dan ei enw ei hun mewn 30 mlynedd, fel rhan o Ŵyl Dinas Gerdd gyntaf Caerdydd, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd.

Mae’r tocynnau hefyd yn cynnwys cyfle i gael cipolwg unigryw ar yrfa 40 mlynedd yn y diwydiant cerddoriaeth lle bu’n gweithio gyda phob math o artist, o Phil Collins i Perfume Genius, ac o John Mayer i J Dilla, wrth iddo sgwrsio  gyda’r DJ 6Music, Huw Stephens, yn trafod pob agwedd ar gerddoriaeth – o’r caneuon mae’n eu caru,  i’w arddull bas unigryw – a sut y lluniodd Caerdydd ei ddylanwadau cerddorol.

Dywedodd Huw Stephens: “Mae Pino yn cael ei ystyried fel baswr gorau’r byd.  Mae wedi cydweithio â rhestr hirfaith ac amrywiol o artistiaid.  Mae ei wreiddiau yng Nghaerdydd ac mae’r ffordd y gwnaeth y ddinas ei siapio, ei deulu a’i ffrindiau a’r cerddorion yn y ddinas, yn stori anhygoel y byddwn yn ei thrafod gyda Pino yn ystod y digwyddiad. Bydd gwrando arno’n perfformio’r cyngerdd arbennig hwn yn CBCDC yn brofiad bythgofiadwy.”

Yn ymuno â Pino ar lwyfan Neuadd Dora Stoutzker, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar nod Lun 14 Hydref bydd yr offerynnwr taro Chris Dave, a anwyd yn Houston, sydd wedi chwarae gyda rhai o’r enwau mwyaf nodedig y byd jazz ac R&B ac fe’i disgrifiwyd unwaith fel “y drymiwr mwyaf peryglus sydd ar dir y byw,” gan Questlove o The Roots.

Ar y gitâr, yn tynnu ar ei gefndir mewn roc, gospel, jazz, R&B, blŵs a ffync gyda dogn sylweddol o soul bydd Isaiah Sharkey. Yn hanu o deulu cerddorol yn Chicago, cydiodd Sharkey yn ei gitâr gyntaf pan oedd yn 3 oed. Erbyn iddo gyrraedd 14 oed roedd yn perfformio mewn clybiau yn Chicago ac ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach roedd wedi denu sylw a diddordeb cewri’r diwydiant cerddoriaeth fel The Isley Brothers, John Mayer, Patti LaBelle a llawer o rai eraill.

Ffurfiwyd y triawd yn wreiddiol yn 2012 wrth deithio opus soul dylanwadol D’Angelo, Voodoo – y mae sain ei adran rhythm yn adlewyrchu arddull unigryw Pino. Yn chwarae alawon gwreiddiol, repertoire sy’n gyffredin iddyn nhw i gyd a byrfyfyrio mae eu sioeau’n cyfuno ymasiad, hip-hop, seicedlia, soul ffync a mwy – ond bu bron iddo beidio â digwydd.

“Ar ddiwedd y daith,” meddai Pino, “cawsom gyfle i chwarae yn Tokyo fel pumawd offerynnol, ond y diwrnod cyn gadael Japan, bu’n rhaid i’r allweddellwr a’r sacsoffonydd dynnu allan, felly doedd gyda ni ddim dewis ond chwarae sioeau Tokyo fel triawd. O fewn ychydig funudau yn y sioe gyntaf fe sylweddolon ni mai fel hyn roedd pethau i fod!

“Yng Nghaerdydd y ces i fy magu felly mae’n golygu lot i fi ddod nôl i chwarae, mae’n rhaid bod 30 mlynedd ers y tro diwethaf i fi chwarae gig yno yn fy enw i, felly dylai hi fod yn noson arbennig.”

Mae Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd hefyd yn cynnwys yr artistiaid electronig arloesol, Leftfield and Orbital, Ms. Lauryn Hill and The Fugees sy’n chwalu ffiniau cerddoriaeth, y triawd rap Gwyddelig, Kneecap, sy’n chwalu ffiniau rhywedd, a’r bardd a’r sacsoffonydd jazz Alabaster DePlume.

Yn ogystal â chyfres o berfformiadau, gigs, sgyrsiau a digwyddiadau annisgwyl  unigryw untro, bydd tri digwyddiad hirsefydlog yng nghalendr diwylliannol Caerdydd a Chymru yn dod yn rhan hanfodol o’r dathliadau mwy, uchelgeisiol o dan faner Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd am y tro cyntaf eleni, sef Gŵyl Sŵn, Llais a’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig.