Sŵn 2024 yn Cyhoeddi Ail Don o Artistiaid
Dydd Mercher, 21 Awst 2024
PRIF ŴYL I DDARGANFOD CERDDORIAETH YNG
NGHYMRU
SŴN YN CYHOEDDI’R AIL DON O ARTISTIATID 2024 – BYDD YR ŴYL AR DRAWS Y BRIFDDINAS 17 – 19 HYDREF
ARTISTIAID WEDI’U CYHOEDDI HEDDIW:
LAMBRINI GIRLS
PHILIP SELWAY
MARI MATHIAS
HONESTY
THE TUBS
TALULAH
SHLUG
HYLL
+ LLAWER MWY
YN YCHWANEGU AT ENWAU FEL BUZZARD BUZZARD BUZZARD, ENGLISH TEACHER, ADWAITH, WU-LU, HANNAH DIAMOND, DAS KOOLIES, PYS MELYN
+ MWY
FIDEO YN CYHOEDDI ARTISTIAID AR GAEL YMA:
https://youtu.be/O1YOZ1OiWo4
TOCYNNAU AR GAEL YMA:
https://swnfest.com/tickets/
“Charming, a little slept on and flecked with magic.” – The Guardian
“Diverse and full of surprises.” – NME
“There’s something for everyone.” – DIY
“Sŵn Festival is setting the benchmark for festival line-ups and really hammers in a ‘no more excuses’ approach when it comes to diversity on line-ups… A perfectly run event, glued together by beautiful, kind and community-driven people.” – Clash
Heddiw, mae Gŵyl Sŵn wedi cyhoeddi’r ail don o artistiaid a fydd yn ymddangos yn yr ŵyl eleni. Mae’r ŵyl aml-leoliad yn cael ei chynnal ar draws y brifddinas o ddydd Iau 17 Hydref tan ddydd Sadwrn 19 Hydref. Eleni, mae’r ŵyl yn falch o fod yn rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd: dathliad tair wythnos o gigs, digwyddiadau ymdrochol, preswylfeydd, gosodiadau a phop-yps sy’n gwthio ffiniau arloesedd, perfformiad a thechnoleg cerddoriaeth.
Sefydlwyd Sŵn gan Huw Stephens yn 2007, ond ers 2018 tîm Clwb Ifor Bach sydd wrth y llyw. Eleni, bydd yr ŵyl tridiau yn cyflwyno perfformiadau mewn lleoliadau ar draws y ddinas, gan aros yn driw at weledigaeth graidd Sŵn sef meithrin talent leol, genedlaethol a rhyngwladol a chynnig llwyfan i artistiaid arddangos eu doniau.
Bydd ymroddiad Sŵn i ddathlu talent Cymraeg a Chymreig yn rhoi’r cyfle i’r gynulleidfa cael eu swyno gan alawon a dylanwad jazz Talulah, melodïau chwareus a geiriau gonest Hyll a naws gwerin traddodiadol Mari Mathias.
Bydd pedwarawd The Tubs, sy’n hanu o Gymru ac wedi’u lleoli yn Llundain, yn plethu roc-gwerin gyda synau post-punk tra bydd y triawd pync o Gaerdydd, SHLUG, yn deffro’r gynulleidfa gyda’u perfformiad egnïol.
Mae enwau Cymreig cyfarwydd eraill Sŵn yn cynnwys y band roc a phop o’r brifddinas Buzzard Buzzard Buzzard, y triawd indi-roc o Gaerfyrddin Adwaith, pedwar aelod o’r Super Furry Animals, Das Koolies, ac enillwyr Gwobr Trisgell y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Half Happy.
Bydd y band o Ben Llŷn, Pys Melyn, yn cyflwyno’u synau melodaidd chwilfrydig a’r band roc o Aberystwyth, Mellt, yn dal sylw’r gynulleidfa gyda’u hegni. Bydd cyfle i glywed gwaith solo newydd Griff Lynch, artist unigol gorau Gwobrau’r Selar 2023, Malan, a naws alt-pop Hana Lili.
Ymysg yr enwau o du hwnt i Gymru sydd wedi’u hychwanegu i’r rhaglen yn yr ail don mae’r grŵp pync o Brighton Lambrini Girls, prosiect solo Philip Selway o Radiohead a HONESTY o Leeds.
Mae’r enwau’n ymuno â’r artistiaid sydd eisoes wedi’u cyhoeddi gan gynnwys Wu-Lu, yr artist pync, grunge a hip-hop o Brixton, English Teacher gyda’u pop seicedelia, a’r artist aml-gyfrwng Hannah Diamond.
Am y tro cyntaf ers cyn y pandemig mae gŵyl eleni yn un aml-leoliad dros y tridiau. Ar nos Iau 17 Hydref, bydd Sŵn yn perchnogi Stryd Womanby gyda phum llwyfan yng Nghlwb Ifor Bach, Tiny Rebel, The Moon a Fuel. Ar ddydd Gwener 18 Hydref a dydd Sadwrn 19 Hydref bydd yr ŵyl yn lledaenu ar draws canol y ddinas gyda llwyfannau ychwanegol yn Tramshed, Jacobs Antique Market, Cornerstone a Porter’s (dydd Sadwrn yn unig).
Eleni mae Sŵn yn partneru â chylchgrawn cerddoriaeth DIY, cylchgrawn cerddoriaeth a diwylliant annibynnol Caerdydd Radar, trefnwyr noson techno cwiar CINC, a phlatfform cerddoriaeth Gymraeg KLUST i gyd-guradu llwyfannau.
Meddai Adam Williams, Pennaeth Rhaglennu a Chyfarwyddwr Creadigol Sŵn: “Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi’r ail don o artistiaid ar gyfer Gŵyl Sŵn 2024. Ochr yn ochr â’r enwau newydd cyffrous hyn rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi bod yn gweithio gyda llond llaw o bartneriaid i gyd-gyflwyno llwyfannau eleni. Gallwn gyhoeddi nawr y bydd DIY a Radar yn curadu llwyfan am ddeuddydd draw yn Jacobs, bydd CINC yn cyflwyno noson hwyr yng Nghlwb Ifor Bach ar ddydd Gwener ac am y tro cyntaf byddwn yn trefnu llwyfan am ddim yn Porter’s ar y dydd Sadwrn gyda’n ffrindiau, Klust. Mwy o wybodaeth i ddod yng nghyhoeddiad ton tri!”
Mae’r ŵyl eleni yn anelu i fod yn fwy hygyrch i’r gymuned ehangach. Mae cynlluniau talu, tocynnau consesiwn, mwy o gyfleoedd i gymryd rhan trwy’r rhaglen wirfoddoli a chynllun cais i chwarae newydd sbon ar gael. Cofrestrwch i gael gwybod pan fydd ceisiadau’n agor.
Mae tocynnau Sŵn ar werth nawr gyda chynlluniau rhandaliadau ar gael. Am fwy o wybodaeth ac i brynu tocynnau: https://swnfest.com/tickets/
RHESTR LAWN O’R ARTISTIAID A GYHOEDDWYD HEDDIW:
Alias | Alien Chicks | Automotion | Aziya | Blue Amber | Bored At My Grandmas House | Bricknasty | Casual Smart | Charlotte Clark | Circe | Creiriau | Crows | The Dream Machine | Enola | Fraülein | Georgie & Joe | Good Neighbours | HONESTY | Human Interest | Hyll | Ifan | Ile De Garde | Ivor Woods | Jesca Hoop | Joe Wilkins | Knives | KYNSY | Lambrini Girls | The Manatees | Mari Mathias | Memorials | My First Time | The New Eves | Night Bus | Noah Bouchard | Paige Kennedy | Pencil | Philip Selway | The Pill | Public Order | Sarah Crean | She’s In Parties | Shlug | Shortstraw | Spielmann | Sun King | Talulah | TTSSFU | The Tubs | YARD
RHESTR LAWN O’N ARTISTIAID HYD YMA:
Adwaith | Alias | Alien Chicks | Antony Szmierek | Art School Girlfriend | Automotion | Aziya | Blue Amber | Blue Bendy | Bored At My Grandmas House | Borough Council | Bricknasty | Buzzard Buzzard Buzzard | Canty | Casual Smart | Charlotte Clark | Circe | Clara Mann | Cosmorat | Creiriau | Crinc | Crows | Dana Gavanski | Das Koolies | The Dream Machine | Dushime | Ellie Bleach | Emyr Son | English Teacher | Enola | Fraülein | Freak Slug | GANS | Georgie & Joe | Gift | Good Neighbours | Griff Lynch | Half Happy | Hamish Hawk | Hana Lili | Hannah Diamond | HONESTY | Human Interest | Hyll | Ifan | Ile De Garde | The Itch | Ivor Woods | Jane Weaver | Jesca Hoop | Joe Wilkins | Johnny Loves Me | Kitty & Sorry Stacy | Knives | KYNSY | Lambrini Girls | Lanterns On The Lake | Malan | The Manatees | Manlikevision | Mared | Mari Mathias | Maruja | Mary In The Junkyard | Mellt | Memorials | Mirari | Morn | My First Time | The New Eves | NewWaveSound.Ent | Night Bus | Noah Bouchard | The None | OneDa | Paige Kennedy | Pencil | Philip Selway | The Pill | Plantoid | Plastic Estate | Pleasing | Porij | Public Order | Pys Melyn | Quade | Rachel Lavelle | Razkid | Roddy Woomble | Sarah Crean | The Secret Jesus Factory | She’s In Parties | Shlug | Shortstraw | Shtëpi | Spielmann | Sun King | Talulah | Tom Vek | TTSSFU | The Tubs | TWST | University | The Wave Pictures | Wrkhouse | Wu-Lu | YARD
GŴYL DINAS GERDD CAERDYDD | 27 MEDI – 20 HYDREF 2024.
DYCHMYGWCH DDINAS…
Dychmygwch ddinas llawn cerddoriaeth am dair wythnos ogoneddus. Dinas o leoliadau gwych a diwylliant, ond hefyd o strydoedd sy’n ein swyno gyda digwyddiadau cerdd ymdrochol, gigs cyfrinachol a phop-yps dyfeisgar. Croeso i Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd, sy’n ailddyfeisio’r hyn y gall gŵyl gerddoriaeth fod.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd, nod Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yw denu 20,000 yn ei blwyddyn gyntaf. Gan gynnwys gŵyl gerddoriaeth flaenllaw Sŵn a phenwythnos celfyddydau rhyngwladol Canolfan Mileniwm Cymru, Llais, bydd yr ŵyl yn lledaenu cerddoriaeth ledled y ddinas, gan herio, cyffroi ac ysbrydoli cynulleidfaoedd. Bydd rhaglen lawn o dalent lleol a rhyngwladol, gan gynnwys enwau cyfarwydd a thalentau newydd yn cael eu cyhoeddi dros y misoedd
nesaf.
Bydd Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn digwydd rhwng 27 Medi – 20 Hydref.
Cofrestrwch am ddiweddariadau a chyhoeddiadau.