

Dathliad pythefnos o hyd o gigs, digwyddiadau, sgyrsiau, gosodiadau a pop-yp, gan harneisio pŵer cerddoriaeth, perfformiadau a thechnoleg i uno ac ysbrydoli.
Delweddau fideo o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd 2024 diolch i: Swn // Llais // Wales Millennium Centre // Gorwelion / Horizons / Beacons Cymru / Forte // Welcome To Wales // Welsh Music Prize / Gwobr Gerddoriaeth Gymreig // Mark James / Under Neon Loneliness // Ren Faulkner // Jamie Chapman // Pete Beckett // CULTVR // Orchard Media // On Par Productions
Bydd yr ŵyl arloesol yn cael ei chynnal o Ddydd Gwener 3 Hydref tan Ddydd Sadwrn 18 Hydref 2025, gan ddod â cherddorion, hyrwyddwyr ac arbenigwyr technoleg ymgolli oll ynghyd o bell ac agos i greu cydweithrediadau unigryw a digwyddiadau untro na ddylid eu colli.
Bydd artistiaid sefydledig, arwyr tanddaearol a sêr o Gymru yn llenwi rhaglen chwalu ffiniau rhwng genres cerddoriaeth, rhaglen sydd wedi’i chynllunio i gyffroi cynulleidfaoedd law yn llaw â seinweddau dinesig fydd wedi eu comisiynu yn arbennig, sgyrsiau ysbrydoledig, a sesiynau diwydiant.
Cefnogir gan Lywodraeth Cymru / Cyngor Caerdydd, bydd yr ŵyl yn cynnwys cyfres o berfformiadau unigryw, gigs a digwyddiadau annisgwyl yng nghanol prifddinas Cymru a hynny dros bymtheg diwrnod fydd yn llawn cerddoriaeth.
PEIDIWCH Â CHOLLI….

6 – 12 HYDREF
Wythnos celfyddydau rhyngwladol Canolfan Mileniwm Cymru.

6 HYDREF
Mae Gwobr Gerddoriaeth Gymreig yn dathlu’r gerddoriaeth orau a wneir yng Nghymru neu gan bobl Cymru ledled y byd.

8 HYDREF
Bydd BBC Canwr y Byd Caerdydd yn dod ag amrywiaeth o gantorion o safon fyd-eang i ŵyl Llais ar gyfer Cyngerdd Gala arbennig iawn i ddathlu’r gystadleuaeth yma sy’n adnabyddus yn rhyngwladol.

16 – 18 HYDREF
Yn barod i danio Stryd Womanby a thu hwnt gyda theithlen lawn i gariadon cerddoriaeth newydd.
“Charming, a little slept on and flecked with magic.” – The Guardian

16 – 17 HYDREF
Byddwn yn cynnal trafodaethau, cyflwyniadau a sgyrsiau, yn ogystal â sesiynau grŵp a gweithdai gyda phartneriaid swyddogol yn y diwydiant. Bydd rhaglen Mentoriaid Sŵn yn dychwelyd, sef cyfle i fynychwyr a chynadleddwyr drafod y materion a’r heriau sy’n eu hwynebu nhw, gyda gwahoddedigion proffesiynol o’r diwydiant.
Gweler ein canllaw Beth sy' Mlaen am y rhaglen lawn...
CADWCH YN GYFOES
CRYNHODEB: Cyhoeddi dyddiadau Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd 2025
Newyddion o lansiad 2025....
YR ŴYL 2024 WEDI'I LAPIO
Yn 2024, cynhaliwyd Gŵyl Dinas Gerdd gyntaf Caerdydd – a barhaodd am 24 diwrnod a chynnwys mwy na 200 o artistiaid ac 80 o ddigwyddiadau wedi’u gwasgaru ar draws 25 o leoliadau.

Cefnogir gan Lywodraeth Cymru / Cyngor Caerdydd