Swyddi | Swyddog Marchnata a Chyfathrebu | Chapter, Caerdydd

Bydd y Swyddog Marchnata a Chyfathrebu yn gweithio gyda’r Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu i gyflawni strategaeth gyfathrebu sy’n ehangu amcanion datblygu cynulleidfaoedd Chapter.
Mae’r swydd yn cynnwys elfennau o farchnata, ysgrifennu copi, cyfryngau cymdeithasol, dadansoddi data, golygu a chynhyrchu fideo. Byddwch yn chwaraewr tîm, ond byddwch hefyd yn gallu gweithio ar eich menter eich hunan, gan ragweld heriau a darparu atebion effeithiol.
Dyddiad cau: 15/08/2025