Neidio i'r prif gynnwys

Gallwch brofi 'Under Neon Loneliness' yn ystod Gŵyl Gerdd Caerdydd

Yn sefyll yn uchel yng nghanol dinas Caerdydd mae cynhwysydd llongau du dirgel. Yr unig arwydd o’r hyn sydd y tu mewn yw’r geiriau llachar ‘Under Neon Loneliness.’

I lawer, mae’r tri gair hynny’n dod ag atgofion o gân eiconig y Manic Street Preachers ym 1992, ‘Motorcycle Emptiness’. Efallai y bydd eraill yn eu hadnabod fel teitl cerdd Patrick Jones, ond i Mark James, yr artist y tu ôl i’r gosodwaith, a ymddangosodd dros nos fel rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd – gŵyl gerddoriaeth tair wythnos newydd a gefnogir gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd, sy’n ceisio gwthio ffiniau arloesedd cerddoriaeth, perfformio a thechnoleg ac sy’n para tan 20 Hydref – maen nhw hefyd yn mynd ag ef yr holl ffordd i Japan.

“Pan ti’n teithio gyda’r gwaith,” rhywbeth mae Mark wedi ei wneud yn gyson yn ystod gyrfa sydd wedi ei weld yn dylunio dros 100 o gloriau recordiau ac yn gweithio gydag artistiaid fel Queen, Maximo Park, DJ Shadow, Karl Hyde ac Amy Winehouse, yn ogystal â bod yn gydweithredwr ers amser gyda Gruff Rhys a Super Furry Animals, “mae ‘na bwynt lle ti’n mynd a ti wedi cael bwyd, ac mae yna ddwy neu dair awr yn rhydd cyn mynd i’r gwely, a ti’n crwydro o gwmpas ar dy ben dy hun.”

“Ro’n i yn Tokyo yn gynharach eleni ac mae’n achosi’r teimlad yna o fod Yn Unig o dan Neon. Mae yna adeiladau gwirioneddol dal ac mae’r arwyddion neon yn mynd yr holl ffordd i fyny’r ochr. Mae pob un yn far, bwyty, siop wahanol – gall fod pedwar llawr ar ddeg o bethau gwahanol yn digwydd.”

Gyda thrac sain o recordiadau maes a wnaed yn Tokyo a’u cymysgu gan Cian Ciaran (Super Furry Animals, Das Koolies), defnydd clyfar o ddrychau, a deunaw arwydd neon a grëwyd yn unigryw yn hysbysebu bariau, bwytai a chlybiau, mae Under Neon Loneliness yn creu’r hyn mae Mark yn ei ddisgrifio fel “y teimlad o gamu i fyd arall, ond mae’n fyd dieithr ac mae’n llethol bron – yr un teimlad dwi’n meddwl oedd y Manics yn ei awgrymu yn y gân – a ti’n edrych i fyny ac mae’n ddiderfyn a ti jyst yn mynd, o fy Nuw!”

Bydd Under Neon Loneliness, a ariennir yn rhannol gan Caerdydd AM BYTH, yn cael ei arddangos yn Sgwâr Canolog Caerdydd tan ddiwedd Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd. Mae’r ŵyl, a fydd yn cynnwys Ms. Lauryn Hill sy’n chwalu rhwystrau a’r Fugees yn perfformio’r wythnos hon, eisoes wedi cynnwys artistiaid electronig arloesol Leftfield ac Orbital, a’r bardd jazz a’r sacsoffonydd Alabaster DePlume, yn ogystal â thalentau hip-hop Cymreig Mace the Great a Sage Todz a’r cawr drwm a bas leol High Contrast. Mae’r ŵyl newydd hefyd yn cynnwys tri digwyddiad hirsefydlog yng nghalendr diwylliannol Caerdydd a Chymru – Gwobr Gerddoriaeth Gymreig, Gŵyl Llais a Sŵn – yn dod yn rhannau hanfodol o’r dathliadau mwy, uchelgeisiol dan faner Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd eleni.

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau: “Mae yna gyffro mawr ynglŷn â sîn gerddoriaeth Caerdydd ar hyn o bryd ac yn dilyn sioeau anhygoel dros bythefnos agoriadol yr ŵyl, bydd dyfodiad Under Neon Loneliness yn y Sgwâr Canolog yn mynd â phethau i’r lefel nesaf wrth i ni ddechrau wythnos olaf yn llawn cerddoriaeth anhygoel.

“Ond mae yna ochr ddifrifol i hyn hefyd. Mae Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn rhan allweddol o’n gwaith strategaeth gerddoriaeth i gefnogi sector cerddoriaeth y ddinas – sy’n werth tua £100 miliwn y flwyddyn i economi Caerdydd – a’i gwneud yn greiddiol i ddatblygiad Caerdydd yn y dyfodol.”

Dywedodd Carolyn Brownell, Cyfarwyddwr Gweithredol Caerdydd AM BYTH; “Mae celf gyhoeddus yn rhan allweddol o weledigaeth siapio lleoedd Caerdydd AM BYTH ac rydym yn falch ein bod wedi gallu darparu cyllid i wireddu gosodwaith Under Neon Loneliness a datgloi animeiddio ehangach yn y Sgwâr Canolog. Mae Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn gyfle gwych i fusnesau ar draws canol y ddinas ac mae arlwy ddiwylliannol gref yn rhan allweddol o unrhyw ddinas fywiog a ffyniannus.”

Mae Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn para tan 20 Hydref. Mae manylion tocynnau, a’r rhestr lawn o fwy na 80 o gigs a digwyddiadau, ar gael yma: https://dinasgerddcaerdydd.cymru/

Bydd Under Neon Loneliness ar agor i’r cyhoedd bob dydd o hanner dydd tan 8pm. Mynediad am ddim. Nid oes angen tocyn.